Naturiaethwr: Cymru a’i Hamgylchedd

  • Dylanwad Alun Davies

    Am resymau amlwg, mae gofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Mae’n rhaid i bob un ohonynt – gan gynnwys Is-Weinidogion – gydymffurfio â’r Cod Gweinidogol, sy’n gosod safonau ymddygiad. Ys dywed neb llai na Carwyn Jones: Fel Gweinidogion mae’n ofynnol arnom gadw’r safonau uchaf o ymddygiad. Mae’r Cod yn gosod y safonau hynny, a’r egwyddorion sy’n…

  • Cyfweliad Emyr Roberts

    Gwnaeth Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, gyfweliad ddydd Mercher 26 Mawrth â John Walter ar Radio Cymru. I’r sawl ohonoch nad oedd yn ddigon ffodus i allu wrando ar y cyfweliad, dyma drawsgrifiad o ran ohono. John Walter: Mae’r ffin yn denau hefyd yntydi rhwng cadwraeth a datblygiadau gweithgaredd hamdden, fel rydyn ni…

  • Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent III

    Mewn ymateb i gyfres o scandalau gwleidyddol yn y 1990au, paratowyd adroddiad gan yr Arglwydd Nolan, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Bywyd Cyhoeddus. Amlinellwyd y saith Egwyddor Nolan, sydd i fod i’w dilyn gan bawb sydd mewn “swyddogaeth gyhoeddus”. Er nad oes diffiniad cyfreithiol o swyddogaeth gyhoeddus, mae un Athro Cyfraith yn cynnwys y canlynol o dan y diffiniad: gweinidogion, gweision sifil…

  • Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent II

    Mae’n briodol i fi eich atgoffa bod y cytundeb a wnaethpwyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r datblygwr â’r bwriad o: …manylu’r ymrwymiadau i’w cyflawni, a’r gwaith sydd i’w wneud gan yr Ymgeisydd, er mwyn lleddfu pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch tirwedd, mawn a chynefinoedd bioamrywiaeth… Bydd rhai ohonoch yn cofio mai pum maes oedd wedi codi pryderon swyddogion Cyfoeth…

  • Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent I

    Mae Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent yn gynllun hynod ddadleuol. Mae cryn anniddigrwydd ymhlith y sector amgylcheddol ynghylch y modd yr aethpwyd ati i roi sêl bendith i’r cynllun gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llwyodraeth Cymru. O dan y drefn sydd ohoni, dylid Llywodraeth Cymru ystyried galw cais cynllunio i mewn am ystyriaeth Weinidogol o dan…

  • Morgan Parry

    Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth Morgan Parry dros y penwythnos. Mi oedd yn gawr o bresenoldeb mewn maes amgylchedd Cymru lle mae’r cewri yn adar prin. Fe fydd y sefydliadau yn talu teyrnged fydd yn rhoi rhan o’r darlun am Morgan. Ond dyma flas personol ar y person hynod yma. Mawr mae fy…

  • Ailgylchu neu Aildaflu?

    Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn trin eu gwastraff mewn llu o ffyrdd gwahanol. Peth llesol ydy hynny. Mae’n golygu gall 22 o awdurdodau lleol teilwra’u rheolaeth wastraff i’r ardaloedd maent yn gwasanaethu. Rydym hefyd fel cymdeithas yn fwy tebygol o ddod ar draws ffyrdd gwell o drin gwastraff fel canlyniad, oherwydd mae arloesi’n fwy…

  • Ydy Beicio yn Ddiogel?

    Gwelais drydar gan @DafyddTrystan a dynodd fy sylw at ystadegau marwolaeth beicwyr ym Mhrydain. Mae’r erthygl gan y BBC yn adrodd bod y nifer o feicwyr sy’n cael eu lladd neu’n brifo’n wael wedi cynyddu’n ddiweddar, yn grynswth a fel cyfradd o’r pellter a deithiwyd. Ond ffigyrau’r DU ydy’r rhain, sydd wrth gwrs yn cynnwys Llundain,…

  • 8%: Effeithlonrwydd Ynni

    Yn ddiweddar, trechwyd her gyfreithiol yn erbyn datganiad effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru. Roedd yr her wedi chwilio am ddatrysiad cyfreithiol oherwydd datganiad y llywodraeth y bydd tai newydd ond 8% yn fwy effeithlon eu defnydd o ynni na safonau Rheoliadau Adeiladu 2010, yn hytrach na’r opsiynau oedd i’w gweld yn yr ymgynghoriad. Ym marn y…

  • Treth Tanwydd

    Yn ddiweddar cyhoeddodd Canghellor Prydain y bydd treth tanwydd (cerbydau) yn cael ei rewi tan mis Mai 2015 “cyn belled ag yr ydym yn canfod yr arian i’w cyllido”. Mae’r AA a’r RAC ill ddau wedi croesawu’r datganiad, tra’n dal i gwyno bod treth tanwydd yn rhy uchel o hyd. A honnir y CBI mai “y…