Traffordd yr M4 (Casnewydd) II

Mae dogfennau Llywodraeth Cymru parthed yr M4 yn frith o honiadau di-dystiolaeth. Pa ffordd well o fynd ati i ddechrau ar y pynciau fesul un, nes bod pob honiad neu anwiredd neu gelwydd wedi’i hoelio?

A pha le gwell i ddechrau nag ar dudalennau cyntaf y ddogfen oedd yn rhan allweddol o’r ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Medi a Rhagfyr 2013?

Fan hyn down ni o hyd i’r brawddegau:

Bydd tagfeydd ar yr M4 yn achosi amserau siwrneiau annibynadwy a lefelau gwasanaethau llai felly yn rhwystro datblygiad economaidd yn Ne Cymru… Mae tagfeydd yn digwydd yn aml,
yn enwedig yn ystod adegau prysur ar ddiwrnodau’r wythnos… Po fwyaf o dagfeydd fydd ar y ffordd, y mwyaf yw’r risg y bydd digwyddiadau a damweiniau yn digwydd.

Nid wyf yn economegydd. Efallai dyna pam na deallaf y term “lefelau gwasanaethau llai” yng nghyd-destun tagfeydd ar yr M4. Ond a oes unrhyw dystiolaeth gyda Llwyodraeth Cymru i gefnogi’r honiad yma? Mae’n honiad, cofiwch, sy’n cael ei ail-adrodd ad nauseam gan y CBI pob tro maent yn crybwyll yr M4:

Blaenoriaeth rhif un yw traffordd newydd o amgylch Casnewydd i nifer fawr o aelodau’r CBI. Credaf fod y tagfeydd ac oedi sy’n ganlyniad i gaethiwed y Twneli Brynglas yn cael effaith andwyol ar fuddsoddiad yng Nghymru.

Mewn gwirionedd mae ‘na ddau honiad sydd angen eu harchwilio. Honiad 1 yw bod tagfeydd yn broblem ac y maent ar gynydd. Honiad 2 yw bod y tagfeydd honedig yma yn cael effaith ar yr economi.

Honiad 1

Byddwch chi’n meddwl bod unrhyw broblem sy’n sail i ddatrysiad £1.2 biliwn yn mynd i fod yn weddol cadarn. Ond nid pan fo Llywodraeth Cymru wrth y llyw.

Mae holl gynsail gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes yma yw tagfeydd – congestion, hynny yw. Gan bod Llywodraeth Cymru a’i rhagflaenydd y Swyddfa Gymreig wedi bod wrthi’n ystyried y broblem honedig yma ers 1991, byddwch yn meddwl bod gyda nhw pob ystadegyn fydde ei hangen arnynt.

Ond pan siaradais â Henry Small, yr unig ystadegydd trafnidiaeth sy’n gyflogedig gan Lywodraeth Cymru, ar 5 Rhagfyr 2012, dywedai wrthof:

  • Nid oes gyda Llywodraeth Cymru yr un ystadegyn tagfeydd
  • Nid oes gyda Llywodraeth Cymru modd o fesuro tagfeydd

A phan siaradais â Jay Symonds, ystadegydd trafnidiaeth yn Adran Trafnidiaeth Lloegr ar 18 Ionawr 2013, cadarnhaodd er bod Adran Trafnidiaeth Lloegr wedi dechrau profi ffyrdd o fesuro tagfeydd:

  • Profion ydyn nhw, nid modd cadarn o fesuro tagfeydd
  • Nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â’r profion hynny

Siaradais â fe eto ar 7 Gorffennaf 2014. Cadarnhaodd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dangos fawr o ddiddordeb yng ngwaith ei gyfadran sy’n ymchwilio mesuro tagfeydd.

Rhyfedd o fyd. Y cynsail mwyaf pwysig oll i wariant isadeilwedd mwyaf gan Lywodraeth Cymru yn ei hanes. A does ‘na ddim gronyn o dystiolaeth gyda’r Llywodraeth yn ei gylch.

Mae Llywodraeth Cymru yn smalio bod niferoedd trafnidiaeth yn ddigon da i fesuro tagfeydd. Down ni at yr honiad hwnnw mewn erthygl ddiweddarach. Digon yw dweud mae’n gwbl anghywir.

Honiad 2

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod tagfeydd ar draffordd yr M4 ger Casnewydd yn cael effaith andwyol ar economi Cymru. Er enghraifft:

Lle mae tagfeydd traffig yn cynyddu, gall hynny
effeithio ar gost trafnidiaeth i fusnesau, cymudwyr, defnyddwyr a pherfformiad economaidd…

Mae canfyddiad bod tagfeydd traffig yn rhwystro datblygiad economaidd yn Ne Ddwyrain Cymru…

Canfyddiad? Onid ydy Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i seilio polisi ar dystiolaeth a gwyddoniaeth, nid ‘canfyddiadau’?

Mae’n debyg ei fod e.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Lloegr) yn honni bod fersiwn gwahanol o’r Cod i weision sifil Cymru. Er hynny, nid wyf wedi gallu dod o hyd iddo; does ‘na ddim sôn yn ei gylch ar wefan y Llywodraeth. Ond gallem dybio ei fod yn debyg iawn i God Whitehall.

Yn y Cod hwnnw, mae gweision sifil i fod i:

rhoi gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys cyngor i weinidogion, ar sail tystiolaeth, a chyflwyno’r opsiynau a’r ffeithiau yn gywir

ac i beidio ag:

anwybyddu ffeithiau anghyfleus neu ystyriaethau perthnasol pan yn rhoi cyngor neu yn gwneud penderfyniadau

Y rheswm fy mod yn ffyddiog bod y Cod i weision sifil yn debyg yw achos fe wnaeth Richard Thurston, Pennaeth Ymchwil Adran Addysg a Sgiliau Llwyodraeth Cymru, gyflwyniad am “Rôl tystiolaeth mewn polisi: perspectif Llywodraeth Cymru” ar 30 Ionawr eleni. Ac yn y cyflwyniad hwnnw, mae’n dyfynnu union yr un dyfyniadau (uchod) a geir yng Nghod Whitehall.

Yn ddiddorol digon, mae’r cyflwyniad yn dyfynnu neb llai na Carwyn Jones wrth iddo annerch Uwch Weision Sifil Llywodraeth Cymru:

dywedwch wrthom ni y ffeithiau; dangoswch y dystiolaeth sy’n tanlinellu’r opsiynau

Pa dystiolaeth sydd gyda Llywodraeth Cymru parthed yr effaith economeg tagfeydd honedig ar Gymru?

Dim oll – neu o leiaf, y nesaf peth i ddim oll. Dyma’r hyn y dywedodd Andy Falleyn, Dirprwy Cyfarwyddwr Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wrth iddo adolygu apêl am ymholiad Rhyddid Gwybodaeth:

Mewn perthynas â’ch trydydd cwestiwn parthed asesiadau economaidd, esboniwyd wrthoch bod peth o’r gwybodaeth oedd eisiau arnoch ar gael yn barod ar wefan M4 Corridor Enhancement Measures website, sefM4 CEM Package 1 Workbook [traffordd newydd]; M4 CEM Package 2 Workbook [gwelliannau i’r A48]; M4 CEM Package 3 Workbook [gwelliannau i’r M4]; a M4 CEM Package 4 Workbook [gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus]…

Dwi [hefyd] wedi adolygu’r asesiadau economaidd a gwybodaeth cost-budd ychwanegol sydd gyda ni a sydd wedi’i neilltuo rhag ei ddatgelu a gallaf gadarnhau bod y gwybodaeth yma yn rhan angenrheidiol o’n gwaith i archwilio’n llawn y dewisiadau sydd o dan ystyriaeth am newidiadau a/neu gwelliannau i’r M4 yn ardal Casnewydd. Nid  yw’r gwybodaeth yma yn gyflawn a disgwyliwn newidiadau pellach iddo…

Na fydde datgelu’r drafftiau anghyflawn hyn er budd y cyhoedd cyn cyhoeddi dogfen derfynol oherwydd y credaf y bydde’r datgeliad yn rhwystro ein gallu i ddod i benderfyniad ystyriol er budd pobl Cymru

Yr wyf yn argymell i unrhywun sydd am wybod dyfnder a thrylwyredd dadansoddiad economeg Llywodraeth Cymru am y traffordd arfaethedig chwilio am y term “BCR” (Cymhareb Buddiannau a Chostau) yn y dogfennau (M4 CEM Package) uchod. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi rhoi tystiolaeth ger bron Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol sy’n crynhoi’r dystiolaeth economegol.

Cofiwch, dyna gyfanswm yr holl ddadansoddiad economeg sydd erioed wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gymreig am y traffordd, dros gyfnod o 23 o flynyddoedd.

Felly nad oes gyda Llywodraeth Cymru unrhyw ffordd o fesuro tagfeydd, ei sail bwysicaf oll dros adeiladu traffordd ar Wastadeddau Gwent. A nad ydy Llywodraeth Cymru, na’r Swyddfa Gymreig, erioed wedi cyhoeddi achos busnes nac Asesiad Buddiannau-Costau manwl dros adeiladu traffordd ar Wastadeddau Gwent, y rheswm mae lobiwyr busnes yn rhoi dros gefnogi’r cynllun.

Beth yn y byd ddigwyddodd i bolisi ar sail tystiolaeth? A sut mae gweision sifil yn cysoni gwasanaethu Gweinidogion â’r angen – o dan eu Cod gweithredol eu hunain – i sicrhau eu bod yn:

rhoi gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys cyngor i weinidogion, ar sail tystiolaeth

Sylwadau

2 ymateb i “Traffordd yr M4 (Casnewydd) II”

  1. […] Tagfeydd a’r effaith andwyol ar economi Cymru (does dim tystiolaeth am y naill na’r llall) […]

  2. […] Honiadau di-sail y llywodraeth ynghylch tagfeydd traffig a’r effaith economegol […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *