Naturiaethwr: Cymru a’i Hamgylchedd

  • Bil Cymru

    Mae ambell i berson wedi’i gynhyrfu ynghylch y Bil Cymru (drafft) presennol a gyhoeddwyd ar 20 Hydref 2015. Mae’r Bil i fod i drosglwyddo pwerau dros feysydd a amlinellwyd yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi, oedd ei hun wedi seilio ar gytundeb trawsbleidiol y Comisiwn Silk. Mae’r Bil yn bwriadu datganoli’r pwerau for energy generation projects…

  • Amser i William Graham Gasglu ei Bensiwn?

    Mae’r newyddion bellach ar led fod Cronfa Pensiwn Aelodau’r Cynulliad wedi buddsoddi mewn rhai cwmniau amheus iawn. Fe gewch chi weld y rhestr lawn o’r buddsoddiadau fan hyn, ond dyma’r crynodeb: Mae o leiaf £0.8 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn cwmniau tanwydd ffosil, gan gynnwys rhai o’r cwmniau sy’n bennaf gyfrifol am newid hinsawdd (a rhai sy…

  • Llond Drol o Gelwyddau

    Nid ar chwarae bach mae cyhuddo Llywodraeth Cymru o gelwydda, gwyrdroi’r gwirionedd a cham-ddefnyddio data. Ond nid oes disgrifiad arall am y fath propaganda cywilyddus mae Llywodraeth Cymru yn brysur dosbarthu i gymunedau ledled de Cymru ynghylch eu cynlluniau i adeiladu traffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Beth ddigwyddodd i safonau, i degwch, i’r gwirionedd?…

  • Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Beth Sydd  ChNC i’w Guddio?

    Oes rhagor o gyfrinachau i ddod o du Cyfoeth Naturiol Cymru? Dwi wedi chwilota ym mhob agenda, a chofnodion pob cyfarfod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Does ‘na ddim sôn am Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent. A hwn, er yr holl broblemau amlwg mae safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achosi i’w hun. Os byddwch yn chwilio am drafodaeth ar lefel…

  • Mesuro Dylanwad?

    Sut mae mesuro dylanwad? Mae’n beth anodd ar y naw – os nad amhosib – i’w wneud. Ond pob hyn a hyn fe ddaw ystadegyn diddorol neu stori bach o gyfeiriad annisgwyl. Un felly oedd canlyniad ymholiad at Lywodraeth Cymru: Pob gohebiaeth gan Adran Amgylchedd ac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n crybwyll yr enw ‘Gareth Clubb’,…

  • Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Mwy Fyth o Lygredd

    Disgrifir yr Arolygiaeth Gynllunio fel y canlynol mewn llythyr gan y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant at Gadeirydd y Pwllgor Deisebau, William Powell: … asiantaeth annibynnol weithredol Llywodraeth Cymru ac Adran Cymunedau a Llywodraeth Lleol yw yr Arolygiaeth Gynllunio, sydd wedi’i siarsio gan Weinidogion Cymru i wneud ystod o benderfyniadau ar eu rhan nhw. Mae’n hyrwyddo…

  • Gwyllt, Nid Gwallgof

    Feral. Dwi ddim am wneud arfer o adolygu llyfrau fan hyn. Ond mae Feral wedi newid sut dwi’n edrych ar dirlun Cymru. A mae wedi procio’r meddwl ddigon i fi gynnig syniad herfeiddiol i drawsffurfio moroedd Cymru. Mae Feral yn disgrifio’r modd y mae tirwedd Cymru (a gwledydd Prydain) wedi newid. Erbyn hyn, er bod…

  • Traffordd yr M4 (Casnewydd) III

    Bydde hi braidd yn ddiflas i restru pob honiad di-dystiolaeth, anghywir neu gelwyddol yn nogfennau Llywodraeth Cymru parthed yr M4. Nid oes gennyf lawer o awydd gwneud, a mae gyda chi llai fyth o awydd ddarllen. Ond mae’n werth nodi fod honiadau fel y canlynol yn dod yn aml iawn yn natganiadau’r llywodraeth: Nid yw…

  • Traffordd yr M4 (Casnewydd) II

    Mae dogfennau Llywodraeth Cymru parthed yr M4 yn frith o honiadau di-dystiolaeth. Pa ffordd well o fynd ati i ddechrau ar y pynciau fesul un, nes bod pob honiad neu anwiredd neu gelwydd wedi’i hoelio? A pha le gwell i ddechrau nag ar dudalennau cyntaf y ddogfen oedd yn rhan allweddol o’r ymgynghoriad cyhoeddus rhwng…

  • Traffordd yr M4 (Casnewydd) I

    Yn yr erthyglau sy’n dilyn, byddaf yn datgymalu rhai o’r honiadau y gwnaethpwyd gan y CBI a Llywodraeth Cymru parthed yr angen i wastraffu £1.2 biliwn o arian cyhoeddus ar draffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Ond cyn dechrau ar y broses honno, dyma ddisgrifiad o rai o’r rhinweddau o’r ardal fydd yn cael eu…