Cyfweliad Emyr Roberts

Gwnaeth Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, gyfweliad ddydd Mercher 26 Mawrth â John Walter ar Radio Cymru.

I’r sawl ohonoch nad oedd yn ddigon ffodus i allu wrando ar y cyfweliad, dyma drawsgrifiad o ran ohono.

John Walter:

Mae’r ffin yn denau hefyd yntydi rhwng cadwraeth a datblygiadau gweithgaredd hamdden, fel rydyn ni wedi gweld mewn rhai achlysuron, ac un o’r enghreifftiau yma efallai ydy’r trac rasio arfaethedig yng Nglyn Ebwy, a dyma gen Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear i ddweud am ei bryderon o ynglyn â’r datblygiad yma, a safiad Cyfoeth Naturiol Cymru

Gareth Clubb:

Mae gyda Chyfeillion y Ddaear pryderon ynghylch y trac rasio yma ond yn bennaf oll, mae’n rhaid i ni fynd yn ôl at adroddiad manwl Cyfoeth Naturiol Cymru lle wnaethon nhw codi pump maes gwahanol lle roedd gyda nhw pryderon uchel iawn ynghylch y trac rasio:

Effaith weledol ar Barc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog

Effaith sŵn ar y Parc Cenedlaethol

Effaith golau ar y Parc Cenedlaethol

Effaith ar fywyd gwyllt, ac

Effaith ar bridd uchel ei garbon

Os ydych chi’n crynhoi a chyfansymu yr holl bryderon yma mae’n amlwg na ddyle’r datblygiad yma fynd yn ei flaen.

O fewn tair wythnos a thridiau o ddyddiad cyhoeddi adroddiad manwl iawn ynghylch ffaeleddau’r cais cynllunio, daethon nhw i gasgliad bod dim eisiau i Weinidog Cymru galw’r cais i mewn a mi oedd y cyfnod hwnnw yn rhy gwta o bell ffordd iddyn nhw ystyried yn fanwl bod ‘na modd gwneud yn dda am yr effeithiau andwyol iawn bydde’r cais cynllunio yn ei gael.

‘Dyn ni yn ofni bod y sefydliad yma wedi dod o dan bwysau gan Lywodraeth Cymru a wedi ymateb mewn ffordd sydd yn tanseilio y broses gywir, y broses fe ddyle Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dilyn.

Mae ‘na ebost gan y diweddar Morgan Parry sydd yn dweud bod rhywun o’r enw Emyr yng nghysylltiad Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ddisgrifio gan rywun o’r enw Peter M fel bod yr Emyr yma yn “paranoid” ynghylch rhoi gwybodaeth yn gyhoeddus. Nawr, dyw hi ddim yn anochel bod y Peter M yma yn Peter Matthews, Cadeirydd y Bwrdd, a dyw e ddim yn anochel bod Emyr yw Emyr Roberts, Prif Weithredwr y sefydliad, ond dyna un casgliad gallen ni tynnu o’r gwybodaeth, ac wrth gwrs, o dan egwyddorion Nolan, mae’n bwysig iawn i sefydliadau cyhoeddus fod yn dryloyw, ac yn bwysig iawn bod y penderfyniadau a gymerwyd gan sefydliadau cyhoeddus yn dryloyw. Ac os oes yna unrhyw wirionedd i’r honiad bod Emyr Roberts yn paranoid ynghylch rhoi gwybodaeth yn gyhoeddus, mae hwnnw yn gyhuddiad difrifol iawn ac mae yn amlwg yn mynd yn groes i egwyddorion Nolan.

John Walter:

Emyr Roberts, ga i’ch sylwadau chi ar yr hyn mae gen Gareth Clubb i ddweud, yn enwedig yn ail hanner y cyfweliad yna, yn sôn am dryloywder a gwybodaeth cyhoeddus a chyndynrwydd i wneud hynny efallai?

Emyr Roberts:

Wel dwi ddim yn meddwl fy mod i’n paranoid o gwmpas lle mae’r syniad ‘na wedi dod. Ga i jest esbonio be ddigwyddodd yn yr achos yma. Mae’n bwsig i ddweud o’r cychwyn mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw i roi cyngor i’r awdurdod lleol ac mae Gareth yn hollol gywir, fe wnaethon ni wrthwynebu’r cynnig oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd yn y lle cyntaf. Ond be ddigwyddodd wedyn, mi ddaru’r awdurdod lleol Blaenau Gwent rhoi caniatâd amlinellol i’r cais yma a fe ddaru ni edrych ar y sefyllfa a phenderfynu mai y ffordd orau o gael y canlyniad gorau ar gyfer yr amgylchedd oedd cydweithio gyda’r datblygwr a thrwy wneud hynny, a hefo’r awdurdod lleol dyn ni wedi medru sicrhau hyd at 800 hectar o dir sy’n cael ei reoli a’i warchod er fudd bywyd gwyllt a na fyse’r tir yna ddim ar gael pe na fyddem wedi cael y sgyrsiau yna gyda’r datblygwr. Felly rhan o’n rôl ni ydy edrych ar ôl cadwraeth, yn amlwg, ond hefyd yr economi trwy gydweithio â rhai achosion gyda’r datblygwyr, rydyn ni’n medru sicrhau yr amgylchedd.

John Walter:

Ond oedd ‘na bwysau arnoch chi i newid meddwl, ac o wedi newid eich meddwl, ydych chi’n meddwl bod eich perthynas chi, a’ch delwedd chi, wedi cael ei niweidio?

Emyr Roberts:

Ddim pwysau o gwbl arnom ni…

John Walter:

… gen neb, gen yr awdurdod lleol na gan Lywodraeth Cymru?

Emyr Roberts:

… na, ddim o gwbl…

John Walter:

… wnaeth neb siarad efo chi o gwbl, dim ond eich penderfyniad chi fel asiantaeth?

Emyr Roberts:

Fe ddaru ddigon o bobl siarad efo ni, ond…

John Walter:

… y Llywodraeth, a’r awdurdod lleol?

Emyr Roberts:

Ddaru’r Llywodraeth ddim siarad efo ni o gwbl, ddaru’r awdurdod lleol ddim siarad efo ni o gwbl. Be wnaethon ni oedd edrych ar y sefyllfa, be oedd y dystiolaeth, a dyna oedd ein barn ni. ‘Dyn ni’n ceisio edrych ar ôl yr amgylchedd, hefyd rydyn ni’n ymwybodol o’r economi a’r effaith ar y gymdeithas. Doedd ‘na ddim pwysau arnom ni a ‘dyn ni’n meddwl bod y cynllun ‘dyn ni wedi gweithio arno fo gyda’r awdurdod lleol, dyna ydy’r gorau ar gyfer yr amgylchedd.

John Walter:

Ond be am yr hyn yr oedd Gareth Clubb yn ei ddweud oedd yn yr ebost yma a anfonwyd gan gyn-aelod, yn anffodus, o’r asiantaeth, ydych chi’n cytuno efo fo? Reit – a i ddim ar ôl y gair oedd e’n ei ddefnyddio, bod ‘na… beth oedd y gair… paranoia, ond be ydy’ch ymateb chi i’r ebost yna?

Emyr Roberts:

Wel, mae’n rhydd i bawb ei farn, gan gynnwys aelodau’r Bwrdd, chi’n gwybod, mae hwn yn rhan o’r broses yma…

John Walter:

Ond Cadeirydd y Bwrdd a ddeudodd e, mae hyn yn eitha honiad, yntydi, gan Gadeirydd corff cyhoeddus, bod ‘na baranoia ar ran y Prif Weithredwr i beidio rhannu gwybodaeth

Emyr Roberts:

Mae’n rhydd i bawb gael ei farn ar hynny, mi wnaethon ni rhannu’r gwybodaeth yn agored gyda’r Bwrdd. Y ffordd mae hwn yn gweithio, ‘dyn ni’n briffio y Bwrdd ym mhob cyfarfod ynglyn â beth sy’n mynd ymlaen a be’ wnaethon ni ar yr achlysur  yma oedd briffio’r Bwrdd fel eu bod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen. Ar ddiwedd y dydd, penderfyniad y staff oedd hyn ar ôl edrych ar y dystiolaeth.

Mae sawl pwynt sy’n taro rhywun ar unwaith.

  1. Os mae Emyr yn gywir, a gall awdurdod lleol rhoi caniatâd cynllunio amlinellol heb gael unrhyw fewnbwngan y sefydliad sy’n rhoi cyngor statudol ynghylch yr amgylchedd, mae rhywbeth yn sylfaenol ddiffygiol am y system cynllunio. Bydd angen dybryd mynd i’r afael â’r sgwarnog hynny yn syth bin, yn enwedig wrth ystyried honiad Emyr “Mae’n bwsig i ddweud o’r cychwyn mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw i roi cyngor i’r awdurdod lleol”. Beth yw pwrpas cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru os nad oes rhaid i awdurdod lleol gymryd yr ystyriaeth leiaf ohono?
  2. Roedd Cyngor Blaenau Gwent yn ymwybodol o wrthwynebiad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r cynllun: “fe wnaethon ni wrthwynebu’r cynnig oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd yn y lle cyntaf. Ond be ddigwyddodd wedyn, mi ddaru’r awdurdod lleol Blaenau Gwent rhoi caniatâd amlinellol i’r cais yma”. Mae hwn yn syfrdanol. Er bod Cyngor Blaenau Gwent yn ymwybodol bod y sefydliad statudol amgylcheddol yn gwrthwynebu’r cais, aeth ati i roi caniatâd cynllunio amlinellol. Mae’n dangos, unwaith eto, ffaeleddau mawr naill ai yn y system cynllunio sy’n galluogi awdurdod lleol i anwybyddu pryderon amgylcheddol, neu ffaeleddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru i beidio â gorfodi Llywodraeth Cymru i ymatal y cyngor rhag cymryd penderfyniad.
  3. Meddai Emyr “‘dyn ni wedi medru sicrhau hyd at 800 hectar o dir sy’n cael ei reoli a’i warchod er fudd bywyd gwyllt a na fyse’r tir yna ddim ar gael pe na fyddem wedi cael y sgyrsiau yna gyda’r datblygwr”. Ond nid creu y tir mae Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r tir yma yn dir comin, a felly yn hafan i fywyd gwyllt i raddau ta beth. Dwi ddim yn honni nad oes modd gwella bywyd gwyllt ar y tir, ond rhaid canolbwyntio ar y golled nas grybwyllwyd gan Emyr Roberts: 236 hectar o rosdir.
  4. Dydy Emyr ddim yn gwadu mai fe a Peter Matthews oedd testun ebost Morgan Parry, er ei fod yn dweud “Wel dwi ddim yn meddwl fy mod i’n paranoid  o gwmpas lle mae’r syniad ‘na wedi dod”. Dwi’n tybio y bydd awyrgylch y cyfarfodydd nesaf rhwng y ddau ddyn yma yn oer ar y naw.
  5. Mae’n debyg taw celwydd noeth oedd honiad Emyr “Ddaru’r Llywodraeth ddim siarad efo ni o gwbl, ddaru’r awdurdod lleol ddim siarad efo ni o gwbl”. Un enghraifft sydd newydd ddod i’r fei ydy’r llythyr yma o Graham Hillier at Alun Davies:

Yn ein cyfarfod ar 18 Mehefin addewais i roi rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun erbyn heddiw. Mae hwn yn dilyn sawl cyfarfod rhwng cynghorwyr yr ymgeisydd, ninnau a Chyngor Blaenau Gwent dros y 10 niwrnod diwethaf.

Mae arddull y llythyr hwn yn dangos perthynas o daeogrwydd i’r Gweinidog yn hytrach na sefydliad sydd yn gryf, annibynnol ei farn. Mae’n mynd mor bell ag awgrymu:

Un posibiliad fydde i nifer o’n staff arbenigol weithio yn uniongyrchol llaw yn llaw gydag ymgynghorwyr yr ymgeisydd, er mwyn rhoi mwy o gapasiti uniongyrchol er mwyn canfod ffyrdd o gydymffurfio ag anghenion Rheoleiddiadau Asesiad Effeithiau Amgylcheddol, er enghraifft. Bydd yn rhaid i ni sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau trwy weithredu yn y fath modd, ond credwn bod cynsail gallem ei ddilyn. Byddwn yn archwilio’r posibilrwydd hwn wythnos nesaf, ond mae pryder o hyd y bydd angen rhagor o amser nag sydd ar gynnig ar hyn o bryd os ydym i gael cynydd yn y broses.

Mae’n gwbl syfrdanol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon ystyried treulio eu hadnoddau, gan gynnwys amser ac arbenigedd ‘nifer’ o’u staff, er mwyn hwyluso taith un cais cynllunio trwy’r broses Asesiadau Effaith Amgylcheddol. Gwrthdaro buddiannau? Onid ydy hi’n hollol amlwg?

Mae’n amlwg erbyn hyn bod pethau wedi mynd i chwith o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru parthed

  • Eu penderfyniad i beidio argymell galw’r cais i mewn am y rhesymau a amlinellwyd yn yr erthyglau blaenorol
  • Eu methiant i atal yr awdurdod lleol rhag cymryd penderfyniad, neu eu hanallu i wneud
  • Dylanwad Llywodraeth Cymru – neu beidio – ar y penderfyniadau a gymerwyd

Fel canlyniad, dwi’n bwriadu ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol gan ofyn am ymchwiliad i’r ffordd aethpwyd ati gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gymryd eu penderfyniadau parthed Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent.

Sylwadau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *