Gwelais drydar gan @DafyddTrystan a dynodd fy sylw at ystadegau marwolaeth beicwyr ym Mhrydain.
Mae’r erthygl gan y BBC yn adrodd bod y nifer o feicwyr sy’n cael eu lladd neu’n brifo’n wael wedi cynyddu’n ddiweddar, yn grynswth a fel cyfradd o’r pellter a deithiwyd. Ond ffigyrau’r DU ydy’r rhain, sydd wrth gwrs yn cynnwys Llundain, y lle mwyaf peryglus i feicio yn y DU heb os nac onibai.
Sut mae Cymru yn cymharu?
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 84 o bobl ar gefn beic wedi eu lladd neu’n brifo’n wael yn 2012. Mae hynny’n sylweddol llai na’r ffigyr ar gyfer 2011 ond yn uwch na’r gyfartaledd dros y degawd a fu.
Mae’r trend ar i fyny.
Ond mae mwy o bobl yn teithio ar gefn beic, a mae pobl yn beicio’n bellach, am nifer o resymau da iawn:
- Mae beicio’n hygyrch i lawer iawn o bobl achos nid yw’n dechnegol anodd, nag yn uchel ei bris i wneud (gallwch brynu beiciau gwych yn rhad iawn fan hyn, er enghraifft)
- Mae beicio’n dda iawn i’ch iechyd
- Mae’n ffordd o deithio sy’n rhad iawn (yr unig danwydd yw’ch bwyd)
- Mae’n dda i’r amgylchedd: bydd eich ôl-troed carbon yn lleihau wrth deithio ar gefn beic, yn hytrach na defnyddio car neu gludiant cyhoeddus
Felly mae’n ofynnol arnom i ystyried y pellter mae pobl yn teithio ar gefn beic, er mwyn astudio diogelwch cymharol.
Yr unig ddogfen sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth o ddiddordeb yw’r un yma[1], sydd blwyddyn ar ei hôl hi. (Gweler fan hyn am yr ystadegau 2012 a mynnwch mwy o fanylder gan Adran Trafnidiaeth Prydain!).
Os ydyn ni’n cymryd yn ganiataol bod y pellter a deithiwyd ar gefn beic yn 2012 union yr un ag oedd yn 2011, rydym yn gallu cyfrif y cyfradd o farwolaethau/anafiadau difrifol fesul pellter a deithiwyd.
Does ‘na ddim patrwm clir, ar wahan i’r casgliad ei bod hi’n cryn dipyn yn fwy diogel i fod ar gefn eich beic nawr nag oedd hi yng nghanol y 90au.
Ond edrychwch ar y ffigyrau ar y chwith. Dyma’r cyfradd o farwolaethau ac anafiadau difrifol fesul biliwn milltir a deithiwyd.
Os ewn ni yn ôl at yr erthygl a dynnodd sylw Dafydd Trystan, mae cyfraddau marwolaeth/anafiadau difrifol yn sylweddol is yng Nghymru na chyfartaledd y DU. 20% yn is, mewn gwirionedd.
A sut ydyn ni’n cymharu gyda’r Iseldiroedd? Yn ôl y BBC, yn 2012 roedd ‘na 22 o farwolaethau fesul biliwn milltir a deithiwyd ar gefn beic yna. Ac yma yng Nghymru?
Roedd ‘na 4 o farwolaethau yn 2012, am gyfradd o 41 o farwolaethau fesul biliwn milltir, sydd tua’r un cyfradd â’r DU yn gyffredinol.
Y broblem ystadegol, wrth gwrs, yw bod pob un marwolaeth yn cael effaith mawr ar y cyfradd, gan bod y niferoedd yn isel iawn. Yn 2010 dim ond 2 bobl a laddwyd tra ar gefn beic, i roi cyfradd gwell hyd yn oed na’r Iseldiroedd. Ac yn 2011 lladdwyd 11. Dyna pam mae’n fwy synhwyrol i ddefnyddio’r ffigyrau ar gyfer y sawl a lladdwyd neu a anafwyd yn wael.
Un o’r ffyrdd gorau o wella’r ‘ystadegau’ yng Nhgymru yw i gael mwy fyth o bobl i feicio. A nid am resymau cyfrifo yn unig. Oherwydd mae’r dystiolaeth yn glir bod mwy o feicwyr yn golygu heolydd mwy diogel – i feicwyr.
Nodiadau
1. Tab 2
Gadael Ymateb