Morgan Parry

Tristwch o’r mwyaf oedd clywed am farwolaeth Morgan Parry dros y penwythnos. Mi oedd yn gawr o bresenoldeb mewn maes amgylchedd Cymru lle mae’r cewri yn adar prin.

Fe fydd y sefydliadau yn talu teyrnged fydd yn rhoi rhan o’r darlun am Morgan. Ond dyma flas personol ar y person hynod yma.

Mawr mae fy edmygedd o Morgan wastad wedi bod. Ers i fi ailymgartrefu yng Nghymru ar ól cyfnod tramor, roeddwn yn ymwybodol o’r person huawdl, egwyddorol yma. Ac er fy mod yn gyw bach ym myd amgylchedd Cymru, roedd wastad yn hapus i drafod materion amgylcheddol á fi.

Pan oeddwn wedi derbyn swydd fel Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, a fy amser gyda Chymdeithas Eryri yn brysur dirwyn i ben, gofynnais am gyfarfod á Morgan, oedd ar y pryd yn Gadeirydd Cyngor Cefn  Gwlad Cymru. Mi gwrddais á fe yn y Galeri, Caernarfon, ar ól gwaith. Roedd e wedi amseru’r cyfarfod i allu sbario hanner awr cyn casglu ei blant o’u gwersi cerddoriaeth a dawns.

Gofynnais am ei gyngor. Ac mi elwais o’i ymatebion doeth. Er enghraifft, beth oedd y peth pwysicaf bydde fe wedi eisiau gwybod ar ddechrau ei gyfnod fel Cyfarwyddwr WWF Cymru, ar ól y profiad o fod yn gyfarwyddwr am ddegawd?

Chwerthin fu ei ymateb. A wedyn esbonio’r hyn yr oedd yn meddwl, mewn ffordd hollol ddiymhongar, agored a chynnes.

A wedyn fe ddaeth ei blant ato fe. Plant oedd o dan deng mlwydd oed ar y pryd, yn ól yn 2011. Plant llawn chwerthin a bywyd, wedi gwirioni gyda’u tad a gofleidiodd nhw wrth iddynt rhedeg i’w freichiau. Plant yr oedd Morgan wedi symud yn ól i Ogledd Cymru er mwyn mwynhau bywyd llawnach gyda nhw.

Mae bywyd yn gallu bod yn greulon, ac mae marwolaeth gynamserol Morgan Parry yn dystiolaeth o hynny. Ond rhaid hefyd dathlu’r ffaith bod Cymru yn wlad well o’i herwydd a bod bywydau’r sawl oedd yn ei nabod llawer yn gyfoethocaf fel canlyniad.

Mae fy nghydymdeimladau dwysaf yn mynd i’w deulu.


Cofnodwyd

yn

gan

Tagiau:

Sylwadau

Un ymateb i “Morgan Parry”

  1. […] er mor fawr yw fy mharch at Morgan Parry (ac yn amlwg parch Monbiot – mae Morgan yn destun cof fersiwn clawr meddal llyfr Feral), […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *