Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn trin eu gwastraff mewn llu o ffyrdd gwahanol. Peth llesol ydy hynny. Mae’n golygu gall 22 o awdurdodau lleol teilwra’u rheolaeth wastraff i’r ardaloedd maent yn gwasanaethu. Rydym hefyd fel cymdeithas yn fwy tebygol o ddod ar draws ffyrdd gwell o drin gwastraff fel canlyniad, oherwydd mae arloesi’n fwy tebygol o ddigwydd pan fo 22 o gyfeiriadau gwahanol yn hytrach nag un model dros Gymru gyfan.
Wedi dweud hynny, mae tystiolaeth gref a chynyddol bod rhai ffyrdd yn fwy llesol yn gymdeithasol, economegol ac amgylcheddol nac eraill. Ac efallai dyma wendid y system bresennol. Gan bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio gorfodi, gall gynghorau sir parhau i lawr trywydd nad sydd cystal ac eraill er bod hen ddigon o dystiolaeth i brofi mai’r ffordd arall ydy’r gorau.
Y crachen dwi am grafu fan hyn ydy casglu deunydd ailgylchu: ei daflu i gyd mewn un sach, neu ei gasglu ar wahan; gwydr, papur, metal ayyb.
Mae rhai ffactorau yn dod ar draws yn rhesymegol:
- Mae gwell gyda phobl systemau syml fel y cyfryw
- Oherwydd hyn, mae llawer yn anoddach yn wleidyddol i awdurdod symud o system syml i system mwy cymhleth
- Oherwydd y system casglu, fe fydd yn rhatach a haws casglu deunydd sydd i gyd yn mynd mewn un sach
- Ond fe fydd y deunydd yn cael ei lygru’n haws. Mae hynny’n ei olygu pris llai am y deunydd ar y farchnad rydd, a mwy o ddeunydd yn mynd yn syth i’r gladdfa sbwriel oherwydd ei fod yn rhy lygredig i fynd trwy’r broses ailgylchu
Fe fydd awdurdodau lleol yn cloriannu’r gwahanol elfennau hyn. Er enghraifft, os byddant yn medru gwneud arbedion sylweddol trwy gasgliadau cymysg, efallai wnaiff hwn gwneud yn dda am ansawdd salach y deunydd a gasglwyd.
Mae barn Llywodraeth Cymru yn glir iawn ar y mater hwn:
Ailgylchu – i sicrhau bod gwastraff yng Nghymru nad sy’n addas ar gyfer ailddefnyddio yn cael ei gasglu ar wahan cyn belled â bod hynny’n ymarferol… fe fydd casgliadau ar wahan ar gyfer papur, metel, gwydr a phlastic erbyn 2015
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi eglurhau’r sefyllfa gyfreithiol. Wrth ddadansoddi’r datganiad hwn, mae’n debyg y bydd awdurdodau lleol yn cael hi’n anodd i barhau â systemau taflu-i-gyd-mewn-sach wedi 1 Ionawr 2015, oherwydd:
- Erbyn 1 Ionawr 2015
- Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol casglu papur, metel, gwydr a phlastic ar wahan oni bai bod
- Ansawdd y cynnyrch yn safonol eisoes neu ei bod yn
- Anymarferol yn dechnolegol, yn amgylcheddol ac yn economegol i gasglu’r deunyddiau ar wahan
Rydym yn gwybod nad ydy’n anymarferol i gasglu’r deunyddiau ar wahan oblegid mae sawl awdurdod lleol yn casglu ar wahan.
Y cwestiwn dwys felly yw: a ydy cynnyrch y broses yn safonol? Ymlaen â ni i graffu’r dystiolaeth, felly.
Mae Cynghorau Caerdydd a Chaerffili ill dau yn casglu deunydd ailgylchu gyda’r dechneg ‘taflu mewn un sach’. A daeth papurau gan y ddau awdurdod gerbron Aelodau ym mis Rhagfyr.
Dyma’r hyn adroddwyd gan Gyngor Caerffili:
- Mae ffactorau allanol wedi arwain at safonau ansawdd uwch yn y diwydiant trin gwastraff (ansawdd y cynnyrch yw’r ffactor “pwysicaf un”) (4.1)
- Mae staff y cyngor wedi gorfod gweithio mewn gorsaf didoli gwastraff er mwyn gwella ansawdd y gwastraff a anfonir ymlaen at y ganolfan ailgylchu (4.3)
- Mae’r broses o geisio gwella ansawdd y deunyddiau ailgylchu yn “cymryd llawer iawn o amser ac yn anodd i’w cynnal” (4.6)
- Mae’r broses wedi arwain at gostau sylweddol uwch (4.7)
- Bydd gorfodaeth yn debygol os ydy’r cyngor am osgoi problemau ariannol oherwydd ansawdd gwael y deunydd, neu diffyg marchnad i’w brynu (4.8)
- Mae’n bod y cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i wella ansawdd/gwerth y deunydd a gasglir (4.13)
Mae’n hawdd gweld bod y rhan fwyaf o’r problemau sy’n wynebu Cyngor Caerffili yn deillio o’r system casglu. Dim syndod bod cewynnau, baw ci, pren a gwastraff anailgylchadwy arall yn cyrraedd y canolfannau ailgylchu os ydy preswylwyr wedi cael eu hannog i luchio pob dim yn eu sachau ailgylchu.
Ar yr un diwrnod, aeth papur tebyg i Gyngor Caerdydd. Mae gyda’r cyngor yma problemau difrifol ynghylch eu system casglu deunyddiau ailgylchu hefyd:
- Rhagwelir yn 2013/14 y bydd incwm o wastraff ailgylchadwy 29% yn llai na’r amcanestyniad ar ddechrau’r flwyddyn ariannol – colled o dros £1/2 miliwn (14.)
- Mae angen dybryd ar y cyngor wella ansawdd y deunyddiau a gesglir (16.)
Hyd y clywaf i, dim ond yr awdurdodau hynny sy’n casglu deunydd ailgylchu yn y modd taflu-mewn-sach sy’n wynebu problemau gydag ansawdd ansafonol.
Y cwestiynau sy’n codi felly ydy:
- A fydd yr awdurdodau hynny yn dewis symud i system casglu deunyddiau ailgylchu ar wahan ohwerwydd ansawdd gwael y cynnyrch gyda’r system taflu-mewn-un-sach?
- A fydd yr awdurdodau hynny yn gorfod symud i system casglu ar wahan erbyn 1 Ionawr 2015 oherwydd dyfodiad y Rheoleiddiadau i rym?
- Ac os felly, pa gamau ydy’r awdurdodau yn eu cymryd i symud i’r system newydd?
Gadael Ymateb