Yn yr erthyglau sy’n dilyn, byddaf yn datgymalu rhai o’r honiadau y gwnaethpwyd gan y CBI a Llywodraeth Cymru parthed yr angen i wastraffu £1.2 biliwn o arian cyhoeddus ar draffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Ond cyn dechrau ar y broses honno, dyma ddisgrifiad o rai o’r rhinweddau o’r ardal fydd yn cael eu niweidio os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen. Fel y gwelwch yn y llun uchod, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod trwch o goncrit dros o leiaf 4 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac Ardal Arbennig Cadwraeth Afon Wysg. Mae cyfres o ddogfennau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru parthed y Safleoedd yma.
Dynodiad yw SoDdGA sy’n dangos bod y cynefinoedd a/neu’r rhywogaethau tu fewn y ffiniau ymhlith y safleoedd bywyd gwyllt a daearegol o bwysigrwydd mwyaf yng Nghymru. Mae SoDdGA yn bwysig oherwydd maent yn cynnig cynefin i fywyd gwyllt fydde’n ei chael hi’n anodd byw mewn mannau eraill. Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un niweidio rhinweddau arbennig dynodedig SoDdGA yn fwriadol.
Dynodiadau o bwysigrwydd rhyngwladol yw Ardaloedd Arbennig Cadwraeth. Caiff eu diogelu “yn ofalus iawn” o dan Cyfarwyddeb Cynefinoedd y CE.
Mae ardal Gwastadeddau Gwent yn cynnwys cynefinoedd nad oes eu tebyg yng Nghymru, gan gynnwys rhwydwaith o ffosydd iseldir. Mae’r ffosydd yma yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt arall, gan gynnwys cornchwiglod, dyfrgwn, llygod pengron y dŵr a’r gardwenynen feinllais, gwenynen mor brin mae hi ond i’w canfod mewn cynlleied â 20 o safleoedd yn y DU.
Cofnodwyd mwy na 350 rhywogaeth o drychfilod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill yn yr ardal, gan gynnwys y pryf milwrol Odontomyia ornata, sydd fwy neu lai’n gyfyngedig i Wastadeddau Gwent a Gwlad yr Haf. Mae’r casgliad o chwilod dŵr sydd i’w cael yng Ngwastadeddau Gwent yn unigryw yng Nghymru, yn ôl Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae llawer iawn o blanhigion prin yn yr ardal, gan gynnwys frogbit, saethlys a Wolffia arrhiza – planhigyn blodeuol lleiaf y byd nad sydd i’w canfod yn unman arall yng Nghymru.
Yn amlwg, nid yw’n hawdd i ddeddfwrfa caniatau datblygu ar safleoedd cadwraethol fel y rhai yma. Mae’n bwysicach fyth pan fydd y datblygiad hwnnw yn un mawr iawn, hynod o ddinistriol, heb sôn am yr ôl-troed adeiladu’r traffordd.
A mae’n rhaid i’r sawl sydd am ddatblygu’n ddinistriol ar y safle wneud yn siwr mai dyna yw’r unig opsiwn sydd ar gael iddynt fwrw ymlaen. Dyna yw pwrpas Asesiad Strategol Amgylcheddol, wedi’r cwbl.
Yn yr wythnosau nesaf byddwn yn gweld ai anochel neu diangen yw’r cynllun i osod 14 milltir o goncrit dros Wastadeddau Gwent.
Gadael Ymateb