Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent II

Mae’n briodol i fi eich atgoffa bod y cytundeb a wnaethpwyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r datblygwr â’r bwriad o:

…manylu’r ymrwymiadau i’w cyflawni, a’r gwaith sydd i’w wneud gan yr Ymgeisydd, er mwyn lleddfu pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch tirwedd, mawn a chynefinoedd bioamrywiaeth…

Bydd rhai ohonoch yn cofio mai pum maes oedd wedi codi pryderon swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar 10 Gorffennaf 2013, nid y tri a grybwyllir uchod:

  • Effaith weledol ar Barc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog
  • Effaith sŵn ar y Parc Cenedlaethol
  • Effaith olau ar y Parc Cenedlaethol
  • Effaith ar fioamrywiaeth
  • Effaith ar bridd uchel ei garbon

Dwi ddim am eiliad yn dweud bod yr ymrwymiadau a wnaethpwyd yn y cytundeb yn gwneud yn dda am y pryderon gwreiddiol a godwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Dyna fy marn i, ta beth.

Ond mewn llythyr a ysgrifennwyd at Lywodraeth Cymru ar 16 Gorffennaf – 6 diwrnod yn unig wedi codi pryderon difrifol ynghylch effeithiau sŵn y datblygiad – cawn weld Graham Hillier yn eu hanwybyddu’n llwyr.

Felly nid oedd yr un gair yn y cytundeb, nac o fewn unrhyw ohebiaeth o Gyfoeth Naturiol Cymru at Lywodraeth Cymru, wnaeth sôn am effaith olau nac effaith sŵn ar y Parc Cenedlaethol wedi 10 Gorffennaf 2013.

Sut allem esbonio’r diffygion hyn?

Dim ond pedwar esboniad sydd yn bosib. Un ydy bod y pryderon ddim yn bwysig, a’u bod yn hawdd i’w datrys. Dwi ddim yn arbenigo ym maes effaith olau, ond dwi’n derbyn bod problem olau yn bosib ei datrys heb ymrwymiad penodol yn y cytundeb, gydag ewyllys da ar bob ochr. Er enghraifft, gellid cynnal rasiau yn ystod oriau golau haul yn unig.

Ond dwi’n methu derbyn yr esboniad hynny ar gyfer effaith sŵn. Er enghraifft, mae adroddiad i Gyngor Blaenau Gwent gan brif swyddog cynllunio y sir yn datgelu:

1.14… Barn Pennaeth Iechyd Amgylcheddol yw ei bod bron yn anochel y bydd trigolion ardaloedd cyfagos fel Rasau, Garnlydan a Threfil – ac efallai rhai pellach i ffwrdd – yn cwyno am y sŵn. Bydd hwn yn digwydd er gwaethaf gweithrediadau i leihau effaith sŵn. Am y rheswm yma mae wedi gwrthwynebu’r datblygiad… Oni bai bod Aelodau yn teimlo y gall y broblem gael ei reoli gan gynllun rheoli sŵn, dylen nhw gwrthod caniatâd cynllunio am y rheswm hwn yn unig.

12.16… Cyngor clir Pennaeth Iechyd Amgylcheddol yw pe bydde’r Cyngor caniatau’r cais fel ag y mae ar hyn o bryd, fe fydd yn newid hinsawdd sŵn yr ardal yn sylweddol dros y tymor hir.

12.43… Aros y mae pryderon sylfaenol ynghylch effaith gweithrediad y datblygiad, yn enwedig y cyfleusterau trac rasio. Rhannaf bryderon Pennaeth Iechyd Amgylcheddol nad yw’r effeithiau hyn wedi eu adnabod yn llawn

22.18… Canlyniad y Cylchffordd Rasio fydd newid amgylchedd sŵn ardaloedd cyfagos Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd ardaloedd sydd ar hyn o bryd yn dawel, heb ddatblygiad na sŵn o weithgareddau dynol, yn cael eu newid am byth. Bydd hwn yn effeithio ar y Parc Cenedlaethol a newid profiad y sawl sy’n cerdded ar hyd y rhostir neu sy’n ymweld â’r hynebion rhestredig ac archaeoleg arall sydd i’w canfod yna.

22.19 Mae Pennaeth Iechyd Amgylcheddol y cyngor hwn… yn gwrthwynebu’r datblygiad o safbwynt yr effaith ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Mae ymateb y Parc Cenedlaethol yn wahanol yn faterol oherwydd mae’n ystyried effaith ar brofiad ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol… Yn fy marn i mae’n effaith y dylid ystyried yn un bwysig iawn… yn fy marn i y bydd adegau pan na fydd ymwelwyr i’r rhan yma o’r Parc Cenedlaethol yn gallu mwynhau yr amgylchedd tangnefeddus a thawel sydd wedi’i gysylltu’n agos â’r Parc.

Yn ogystal, mae’r cynllun yn gwrthdaro â:

…pholisiau cynllunio cenedlaethol (PPW 4.2.6, 4.11 5.3.4, 5.3.6, 5.3.7), ac yn debygol o gael effaith sylweddol ar ardaloedd o bwysigrwydd tirwedd.

Mae Cynllun Gweithredol Sŵn Cymru yn honni y gall sŵn trafnidiaeth:

difetha gwerthusiad harddwch natur petai pobl yn ei glywed pan ar gopa mynydd neu yng nghanol parc cenedlaethol

Ac er nad ydwyf wedi cael gafael ar ymateb y Parc Cenedlaethol i’r datblygiad, deallaf mai chwyrn oedd eu gwrthwynebiad, a bod effaith sŵn yn sail bwysig i’w dicter. Mae hefyd yn werth ystyried bod cylchffordd rasio Mallory Park o dan fygythiad gorfod cau oherwydd effeithiau andwyol sŵn ar drigolion lleol.

Yr ail esboniad ydy nad cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw pryderu am effaith sŵn. Ond os felly, pam crybwyll sŵn yn nogfen 10 Gorffennaf 2013? A phaham mae Gweinidog Cynllunio wedi datgan:

Parthed asesu effeithiau sŵn y datblygiad arfaethedig ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac a ydynt yn debygol o fod o fwy na bwysigrwydd lleol yn unig, ymgymghorom ni â Chyfoeth Naturiol Cymru, sef ein cynghorydd statudol ar faterion cynllunio sy’n ymwneud â Pharciau Cenedlaethol.

Mae’n briodol nodi bod Gweinidog Amgylchedd, Alun Davies, hefyd wedi datgan:

Un o’m mlaenoriaethau uchaf ydy gwella’r amgylchedd lleol i’n dinasyddion mwyaf difreintiedig. Mae dod i’r afael â llygredd sŵn yn chwarae rhan hanfodol i’r perwyl hon…

Mae un o wardiau Rasau, a rhannau helaeth o Garnlydan, o fewn y 10% o wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Y trydydd esboniad am fethiant Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried effaith sŵn ydy bod y swyddogion oedd yn gyfrifol am y cytundeb wedi ‘anghofio’ am effaith sŵn fel effaith o bwysigrwydd mwy na lleol yn unig.

Go brin! Dydy effaith sy’n gwrthdaro ag o leiaf 5 o bolisiau cynlluniau cenedlaethol ddim yn mynd yn angof yn rhwydd, yn enwedig i’r swyddogion oedd wedi dadansoddi’r dogfennau datblygu yn y lle cyntaf.

Yr unig esboniad arall yw bod y sawl oedd yn gyfrifol am lunio’r cytundeb wedi gwneud penderfyniad penodol i beidio â’i gynnwys yn y cytundeb. Mae’r esboniad hynny yn codi croen gŵydd. Oherwydd mae’n golygu mai mympwy unigolyn neu unigolion sy’n gyfrifol am bolisi cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru.

Sylwadau

2 ymateb i “Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent II”

  1. […] ← Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent II […]

  2. […] … sef yn union, wrth gwrs, yr hyn a ddigywddodd. […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *