Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent I

Mae Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent yn gynllun hynod ddadleuol. Mae cryn anniddigrwydd ymhlith y sector amgylcheddol ynghylch y modd yr aethpwyd ati i roi sêl bendith i’r cynllun gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llwyodraeth Cymru.

O dan y drefn sydd ohoni, dylid Llywodraeth Cymru ystyried galw cais cynllunio i mewn am ystyriaeth Weinidogol o dan amgylchiadau penodol:

Y mater allweddol i Weinidogion Cymru yw a yw’r cais yn codi materion sy’n fwy na rhai sydd o bwysigrwydd lleol yn unig. Os felly, hwyrach y gellir ei alw i mewn.

Fe wnaeth Gyfoeth Naturiol Cymru asesiad o’r effeithiau amgylcheddol tebygol. Fel bron a bod pob dogfen a grybwyllir yn yr erthyglau parthed Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent, maent ar gael yn unig trwy ymholiad Rhyddid Gwybodaeth. Nid ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddu eu hymatebion i ymholiadau o’r fath, am resymau syfrdanol y cewch weld yn nhrydedd erthygl y gyfres hon.

Mae’r asesiad, ym mis Gorffennaf 2013, yn datgelu y gellid disgwyl effeithiau sy’n fwy na rhai sydd o bwysigrwydd lleol mewn pum maes gwahanol:

  • Effaith weledol ar Barc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog
  • Effaith sŵn ar y Parc Cenedlaethol
  • Effaith olau ar y Parc Cenedlaethol
  • Effaith ar fioamrywiaeth
  • Effaith ar bridd uchel ei garbon

Ond llai na mis yn ddiweddarach, cynhyrchodd Cyfoeth Naturiol Cymru gytundeb a ysgubodd yr holl bryderon i’r neilltu. Mae’n syfrdanol o ddogfen, mor brin o fanylion, mor bitw ei rhesymeg a mor wan yr amddiffyn o’r amgylchedd yng ngwyneb datblygiad mor niweidiol. Er nad oes llofnod ar y fersiwn a gafwyd o dan ymholiad rhyddid gwybodaeth, cymeraf ar ddeall mai Graham Hillier, Cyfarwyddwr Gweithredol y De, a awdurdododd y caniatad.

Mae’r ddogfen hon yn neilltuol o bwysig. Cyn ei dyfodiad, mae’n debyg na fydde opsiwn gyda’r Gweinidog (Carl Sargeant) ond i alw’r cais i mewn oherwydd yr effeithiau mawr a amlinellwyd gan adroddiad manwl mis Gorffennaf. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r llythyr tair tudalen hwn i gyfiawnhau peidio galw’r cais i mewn:

…rydym wedi ein bodloni bod modd rheoli effeithiau amgylcheddol y cynllun hwn yn briodol fel, yn ein tyb ni, nad oes angen galw’r cais i mewn…

Pam ei bod yn broblem i ddefnyddio cytundeb fel yr un yma i wthio pryderon amgylcheddol i’r neilltu?

Yn gyntaf, dwi’n amau nad ydy defnyddio cytundeb o’r fath yn cydymffurfio ag arferion da ym maes cynllunio ac amddiffyn yr amgylchedd. Mae proses ynddo’i hun yn bwysig er mwyn sicrhau nad oes mantais (neu anfantais) i unrhyw ddatblygiad ar draul datblygiad arall, ac i wneud yn siwr bod pob datblygiad arfaethedig yn cyrraedd safonau sylfaenol. Mae’n debygol bod y cytundeb hwn wedi’i seilio ar fympwy aelod(au) staff yn dewis a dethol telerau ar gyfer y datblygwr penodol yma. Nid ar sail felly mai cynnal cyfundrefn cynllunio/gwarchod amgylcheddol cyson, cryf, dibynadwy.

Yn ail, mae’r weithred hon yn gynsail beryglus iawn. Pam dyle unrhyw ddatblygwyr yn y dyfodol pryderu am adroddiadau manwl, beirniadol gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru? I gyd sydd angen arnyn nhw yw mynychu cyfarfod gyda swyddogion penodol yn y sefydliad a – hei presto – dyma ddiflaniad yr holl bryderon amgylcheddol mewn cytundeb sydd â dim oll o fanylion ynghylch yr hyn y bydd angen i’r datblygwr ei wneud. Ac os nad ydy’r manylion yn y cytundeb, pwy fydde’n beio’r datblygwr petai’n tynnu nôl o addewidion melys a wnaethpwyd cyn llofnodi’r cytundeb?

Yn drydydd, mae’r cytundeb hwn yn debygol o atynnu pob math o ddatblygwr anfoesol i Gymru os bydd eisiau diwydiannau neu ddatblygiadau niweidiol i’r amgylchedd. Y neges ydy: diwydiannau anfoesol a rheibus Ewrop, dyma ni yng Nghymru yn barod i roi lloches i chi!

Ac yn olaf, ac efallai yn fwy difrifol na phopeth arall, gadewch i ni beidio anghofio nad cytundeb cyfreithiol mo’r cytundeb. Mae hynny wedi neilltuo’n benodol yng nghymal 3.2 y cytundeb. Dwi ddim yn gwybod pa statws sydd â’r cytundeb os nad yw’n gyfreithiol, ond mae’n debyg nad yw’n werth llawer iawn mwy na’r papur a sgrifennwyd arno.

Nid wyf eto wedi sôn am gynnwys y cytundeb. Ond dwi’n ofni bod problemau enbyd yn y manylder prin sydd ar gael, er bod pwrpas honedig y cytundeb:

…yw manylu’r ymrwymiadau i’w cyflawni, a’r gwaith sydd i’w wneud gan yr Ymgeisydd, er mwyn lleddfu pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch tirwedd, mawn a chynefinoedd bioamrywiaeth…

Er enghraifft, er mwyn lleddfu pryderon amgylcheddol ynghylch pridd uchel ei garbon, fe fydd y datblygwyr yn:

…lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel canlyniad o’r gweithgareddau tra’n gweithredu… osgoi amharu ar y mawn tra’n bosib… a gwneud yn iawn am golled mawn anochel trwy gwella cyefinoedd mawn eraill yn lleol/yng Nghymru

Hyn er mwyn gwneud yn dda am gloddio 500,000 – 700,000 m3 o fawn o’r rhostir. Dim rhagor o fanylion. Sut mae gwneud yn iawn am golled o’r fath? Gobeithio’n arw bod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yr arbenigedd i wybod. Oherwydd ym mis Gorffennaf, dyma oedd barn Cyfoeth Naturiol Cymru:

…rydym â phryderon ynghylch dilysrwydd y model a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r allyriadau nwyon tŷ gwydr. Rydym o’r farn bod y model yn wallus a wedi dyddio. Rydym o’r farn bod y golled fawn hon yn bwnc pwysig sy’n torri ar draws caffael carbon, newid hinsawdd ac effeithiau ar yr ecosystem cyfan.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd o’r farn bod y model yn amcangyfri’n rhy isel yr allyriadau CO2 tebygol.

Wrth drafod gwneud yn dda am golled cynefinoedd rhostir/mawn, mae’r cytundeb yn cynnig:

…gwella porfa a chynefin gerllaw… nid llai na 600 hectar a nid yn fwy na 800 hectar yn ystod oes y datblygiad…

Efallai bod y cynnig yma yn swnio’n hael i rai. Ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn bod:

Ardaloedd maint > 3x neu 4x yr ardal a gollir yn cyd-fynd â cheisiadau cynllunio diweddar sy’n effeithio ar gynefinoedd mawn tebyg.

Gan bod y datblygwyr yn bwriadu gosod concrit dros 236 hectar o rostir gan ei ddifetha am byth, dydy’r 600 hectar a gynigiwyd fel lleiafswm ddim yn cyrraedd y nod o bell ffordd.

Dylid nodi bod Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Emyr Roberts, yn disgrifio gwaith Graham ar y Cylchffordd Rasio – hynny yw, y cytundeb a’r argymhelliad i beidio â galw’r cais i mewn – fel “canlyniad da“.

Mae’r llythyr a anfonwyd at Lywodraeth Cymru oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru, gan argymell peidio galw’r cais i mewn, yn sôn am:

…gwybodaeth sydd bellach ar gael i ni yn ogystal â’r hyn sydd i’w weld yn Annex I [y cytundeb]…

Nid oherwydd diffyg ymdrech ar fy rhan i, ond nad ydw i wedi gallu cael gafael ar y gwybodaeth ychwanegol a grybwyllwyd. Digon posib bod llawer iawn mwy o fanylion yn yr hyn nas ddatgelwyd, sydd gwirioneddol yn cyfiawnhau argymell peidio galw’r cais i mewn.

Ond os felly, pam nad ydy’r gwybodaeth hynny wedi dod i’r fei?

Nid Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â’r bai i gyd fan hyn. Er fy mod i wedi methu dod o hyd i’r e-byst dadlennol o du Lywodraeth Cymru (roedd y llywodraeth o’r farn y bydde’n cymryd 5,152 awr i ddod o hyd i’r wybodaeth – sy’n codi cryn pryder ynghylch effeithlonrwydd y gwasanaeth sifil), mae’n anodd peidio dod i’r casgliad bod y llywodraeth wedi pwyso ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ddod i benderfyniad cyflym parthed galw’r cais i mewn ai peidio:

  • Ar 10 Mehefin 2013, gofynodd Mr Greg Matthews (Llywodraeth Cymru) am farn Cyfoeth Naturiol Cymru a ddylid galw’r cais i mewn ai peidio
  • Ymatebodd Gyfoeth Naturiol Cymru ar 16 Gorffennaf, gan fynnu mwy o amser i ystyried y cais oblegid effeithiau mawr y datblygiad
  • Ar 23 Gorffennaf gofynnodd Llywodraeth Cymru am eglurhad ar rai o’r materion a godwyd yn ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ar 1 Awst, cadarnhawyd dyddiad cau ymateb am 9 Awst

Felly o ddyddiad ymateb gwreiddiol Cyfoeth Naturiol Cymru, rhoddwyd tair wythnos a thridiau iddynt ddatrys y pump problem y soniwyd amdani uchod. A hynny yn ystod amser gwyliau nodedig.

Ond bai pwy ydyw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ildio i’r fath bwysau? Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun. Wedi’r cwbl, fel cadarnawyd gan neb llai na Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mai sefydliad “annibynnol ar lywodraeth” ydy Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac os nad oedd digon o amser i’r sefydliad hwnnw ddod i gasgliad gwyddonol, rhesymegol ynghylch dilysrwydd y cais cynllunio, fe ddyle ei uwch swyddogion wedi mynnu digon o amser i wneud y gwaith trylwyr oedd ei angen arnynt, yn hytrach na chytuno i ruthro ymlaen gyda phroses oedd yn amlwg yn hollol ddiffygiol. Plygu i’r drefn a wnaethant.

Mae’r annibynniaeth sefydliadol honno hyd yn oed yn bwysicach pan fo Llywodraeth Cymru wedi gwario £2 miliwn o bunnoedd er mwyn gwireddu’r cynllun hwn, a wedi addo £15 miliwn ychwanegol yn y dyfodol. Siawns bod y buddsoddiad wedi codi awydd ar Lywodraeth Cymru i gael yr ateb ‘iawn’ gan Cyfoeth Naturiol Cymru?

I gloi, efallai mae’n werth nodi dyfyniad anffodus gan Gweinidog Adnoddau Naturiol, Alun Davies, ym mhapur y South Wales Argus:

O du draw i Flaenau Gwent y daw gwrthwynebiad [i’r Cylchffordd Rasio], nad ydynt yn dod o Flaenau Gwent a nad oes dim diddordeb ganddynt ym Mlaenau Gwent. Mae fy nghyngor iddynt yw i’n gadael ni yn llonydd.

Yn sicr ddigon na ddyle unrhyw Aelod Cynulliad trio dwyn perswâd ar unrhyw un, o unrhyw ran o Gymru, i beidio cymryd eu rhan yn y drefn briodol ddemocrataidd o ymateb i ymgynghoriad. Yn bennaf oll, pan fydd y pwnc yn un dadleuol iawn, a chydag oblygiadau sydd yn llawer ehangach na rhai lleol yn unig, dyle fod yn croesawu mewnbwn o bob cornel o Gymru.

Pan fydd yr Aelod Cynulliad hwnnw yn Weinidog dros faterion amgylcheddol, ac yn noddi Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â’r swyddogaeth o benderfynu a ydy cynlluniau fel y Cylchffordd Rasio yn amgylcheddol dderbyniol, mae ei gyngor hyd yn oed yn fwy amheus.

Sylwadau

3 ymateb i “Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent I”

  1. […] ← Cylchdaith Rasio Blaenau Gwent I […]

  2. […] ddigon pwysig i dynnu sylw’r Gweinidog, a’i fod yn amlwg wedi ystyried y cytundeb – nad oedd yn werth y papur yr ysgrifennwyd arno – fel un oedd yn ysgubo holl bryderon bioamrywiaeth, pridd uchel ei garbon ac effaith weledol […]

  3. […] gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd yn mynnu bod effeithiau tebygol y prosiect yn ddigon mawr i angen ystyriaeth Gweinidogol o’r cynllun. A thair wythnos yn unig wedi’r ebost hon, cawsom yr U-bedol mwyaf yn hanes […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *