Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Mwy Fyth o Lygredd

Disgrifir yr Arolygiaeth Gynllunio fel y canlynol mewn llythyr gan y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant at Gadeirydd y Pwllgor Deisebau, William Powell:

… asiantaeth annibynnol weithredol Llywodraeth Cymru ac Adran Cymunedau a Llywodraeth Lleol yw yr Arolygiaeth Gynllunio, sydd wedi’i siarsio gan Weinidogion Cymru i wneud ystod o benderfyniadau ar eu rhan nhw. Mae’n hyrwyddo tecwch, tryloywder a di-dueddrwydd fel ei gwerthoedd craidd a gall benderfyniadau gan yr Arolygiaeth Gynllunio a Gweinidogion Cymru nad ydynt yn glynu at y gwerthoedd hynny gael eu herio yn y llysoedd.

A mewn ymgynghoriad diweddar ar y system cynllunio a’r Arolygiaeth, medd Llwyodraeth Cymru:

Mae’r drefn bresennol yn hyrwyddo lefel uchel o fewnbwn gan y cyhoedd, a safon uchel o benderfynidau wedi seilio ar egwyddorion tryloywder, tecwch a du-dueddrwydd.

Fe ddown ni yn ôl at y diffiniadau hynny nes ymlaen. Mae’n hynod o bwysig yng nghyd-destun y gwybodaeth a ddatgelwyd mewn perthynas â’r Cylchffordd Rasio.

Mae cyfres o ebyst wedi’u rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth sy’n berthnasol i’r perthynas rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn datgelu peth o’r stori ei hun yn y ddogfen sy’n gwrthod rhyddhau cyngor cyfreithiol:

Ym mis Rhagfyr 2013 derbyniodd Arolygiaeth Gynllunio Cymru cais o dan Adran 38 o Ddeddf Tir Comin 2006 am Gylchffordd Rasio Blaenau Gwent; yn benodol i adeiladu heolydd dros-dro, ffensio dros-dro, ffin i’r datblygiad dros-dro, a thynnu dŵr o’r fawn. Tynnwyd y cais yma yn ôl gan yr ymgeisydd ym mis Ebrill 2014.

Mae gyda Gweinidogion Cymru y grym i wneud penderfyniadau dros bob un cais Adran 38, neu rhai ohonynt yn unig. Os na fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ar gais Adran 38, fe fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwneud y penderfyniad ar y cais, a bydd copi o’r penderfyniad yn cael ei anfon at Weinidogion a swyddogion am bwrpas gwybodaeth.

Fel y gwelir, Gweinidogion Llywodraeth Cymru (mae’n debyg, ar sail cyngor gan eu gweision sifil), sy’n penderfynu ai nhwthau neu’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n gwneud penderfyniad ar gais dad-gofrestru tir comin o dan Adran 38.

Mae’n bwysig nodi hefyd (yn yr un ddogfen) bod Llywodraeth Cymru wedi dewis tynnu enwau rhai swyddogion yn ôl oherwydd nad ydynt yn ddigon uchel yn strwythur y gwasanaeth sifil i’w henwi. Gallem gymryd yn ganiataol felly mai pob enw sydd wedi’i grybwyll yn enw person sydd yn weddol uchel yn strwythur Llywodraeth Cymru neu yn yr Arolygiaeth Gynllunio.

Ar 23 Hydref 2013, mae Spencer Conlon (Llywodraeth Cymru) yn anfon ebost at Gary Haggaty (LlC), gan ddweud:

Bydde unrhyw gais [i dad-gofrestru tir comin neu adeiladu arno] yn cael ei ddelio â gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Ar 16 Rhagfyr 2013, mae Gareth Harvey (Arolygiaeth Gynllunio) yn anfon ebost at berson anhysbys:

Fe ddyle’r cais [Adran 38] gyrraedd ym mis Ionawr [2014] felly byddaf yn cysylltu â chi pan mae wedi cyrraedd parthed y sawl fydd yn gwneud y penderfyniad ayyb.

Yn amlwg, mae swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio yn credu ei bod yn hollol bosib mai’r Arolygiaeth fydd yn gwneud y penderfyniad ar y cais hwn. Yn wir, barn uwch-swyddog y Llywodraeth ydy mai cyfrifoldeb yr Arolygiaeth fydd hi.

Ar 6 Mawrth 2014, mae Spencer Conlon (LlyC) yn ysgrifennu at Gary Haggaty (LlyC):

Sefyllfa’r cais Adran 38 yw bod yr Arolygiaeth Gynllunio, sy’n delio â’r ceisiadau, wedi ystyried y cais yn fras ac erbyn hyn yn barod i ystyried y cais yn llawn. Y cwestiwn ydy a fydd Gweinidogion Cymru am gwneud y penderfyniad ai peidio.

Ar hyn o bryd mae’r Arolygiaeth Gynllunio ag awdurdod i wneud y penderfyniad, yn dilyn archwiliad cyhoeddus, os na fyddwn ni [Llywodraeth Cymru] yn gwneud y penderfyniad (yn debyg o fod yn ystod yr haf); byddant yn datgan eu penderfyniad mewn llythyr a rhoi gwybod i ni. Os byddwn ninnau yn gwneud y penderfyniad, byddant hwythau yn gwneud argymhellion ar ein rhan ni/ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn i ninnau gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae arweinydd tîm yr Arolygiaeth o’r farn y bydd tebygolrwydd uchel y bydd yr Arolygwr yn gwrthod y cais, os hwythau sy’n gwneud y penderfyniad, ar sail tynnu dŵr o’r mawn. Mae CNC wedi peidio argymell y cais ar sail tynnu dŵr o’r mawn, rhywogaethau gwarchodedig, a mynediad.

Mae dogfen wedi’i atodi i’r ebost sy’n esbonio:

Mae Arweinydd Tîm yr Arolygiaeth Gynllunio wedi dweud, ar ôl gweld y cais, fydde wedi synnu’n fawr pe na bydde’r arolygwr yn gwrthod y cais oherwydd tynnu dŵr o’r mawn. Mae angen penderfyniad ar yr Arolygiaeth erbyn diwedd mis Chwefror ai ni nai hwythau sydd am gwneud y penderfyniad.

Mae’r neges yma – a’r ddogfen a adroddir barn arweinydd tîm yr Arolygiaeth – yn syfrdanol. Er bod yr Arolygiaeth Gynllunio i fod yn gorff annibynnol, â thecwch fel un o’i werthoedd craidd, rhywsut mae gwybodaeth pwysig, cyfrinachol yn treiddio i’r Llywodraeth gan esbonio cyfeiriad tebygol penderfyniad yr Arolygiaeth. Yn amlwg mae’r gwybodaeth yma yn rhoi’r cyfle i’r Llywodraeth benderfynu a ydy’n debygol o hoffi penderfyniad yr Arolygiaeth, ac os nad ydyw (wrth gofio bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi miliynau i’r fenter wallgof hon), y dyle gwneud y penderfyniad ei hun.

Ar 11 Mawrth, mae Gareth Harvey (Arolygiaeth) yn gofyn i Spencer Conlon (LlC) am ‘y penderfyniad ynghylch y sawl – ni neu chi – fydd yn gwneud y penderfyniad’.

Rhwng 17 a 20 Mawrth, mae Gareth Harvey (Arolygiaeth) yn cysylltu â Spencer Conlon (LlC) sawl gwaith:

Ydych chi wedi clywed unrhyw newyddion pellach parthed pwy fydd yn gwneud y penderfyniad [ar gais tir comin Cylchffordd Rasio]?

Dwi wedi trio eich galw chi sawl gwaith heddiw… Os gwelwch yn dda, a wnewch fy ngalw i parthed Cylchffordd Rasio ar frys fel ein bod yn gallu symud ymlaen.

Nad ydw wedi clywed dim o hyd, felly mae’n rhaid dod i’r casgliad nad ydy’r Prif Weinidog wedi dod i benderfyniad eto ar y sawl fydd yn gwneud y penderfyniad [Yr Arolygiaeth te’r Llywodraeth]… Mae bwriad gennyf anfon y llythyr prynhawn ‘ma.

Mae’n debygol felly mai y Prif Weinidog a benderfynodd tynnu’r penderfyniad terfynol oddi ar yr Arolygiaeth Gynllunio.

O’r diwedd, ar 20 Mawrth, siaradodd Gareth Harvey (Arolygiaeth) â Spencer Conlon (LlC). Yn ystod y sgwrs hwnnw, cadarnhaodd Spencer fod un o Weinidogion Cymru – erbyn hyn, rydym yn amau mai y Prif Weinidog Carwyn Jones oedd y Gweinidog hwnnw – am gwneud y penderfyniad terfynol. Ar 9 Ebrill daeth cadarnhad ysgrifenedig gan Spencer bod y penderfyniad hwn wedi’i gymryd.

Yn amlwg, rhwng 6 Mawrth a 20 Mawrth eleni, fe fu ‘na gryn tipyn o drafod a chyfyng-gyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Wedi’r cwbl, dim ond 1% o’r holl benderfyniadau yma yw rhai a gymerir gan Weinidogion Cymru.

Ac wedi’r holl drafod a’r cyfyng-gyngor a’r pendro, ar 17 Ebrill dyma’r ymgeisydd yn tynnu’r cais yn ôl.

Mae sawl cwestiwn pwysig iawn yn deillio o’r ebyst yma:

  • Sut mae gwybodaeth cyfrinachol (a dwi mawr yn tybio taw cyfrinachol yw’r math o wybodaeth sy’n datgelu meddyliau Arolygydd am gais cynllunio) yn pasio rhwng swyddogion yr Arolygiaeth a’r Llwyodraeth?
  • Pa Weinidog a gymerodd y penderfyniad mai’r Llywodraeth fydde’n gyfrifol am roi sêl bendith (ai beidio!) i’r cynllun? Dwi’n cymryd o’r ebost fod Carwyn Jones, y Prif Weinidog a wnaeth.
  • Pa mor uchel aeth y gwybodaeth fod yr Arolygiaeth yn debygol o wrthod y cais am ddatblygu ar dir comin? A oedd y Gweinidog yn gwybod hynny?
  • A oedd y buddsoddiad a wnaethpwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru – gyda rhagor ar y gweill os yw adroddiadau yn y wasg i’w credu – wedi pwyso ar y Gweinidog wrth iddo wneud ei benderfyniad?
  • Ac a oedd Gweinidogion Cymru wedi rhagbenodi [pre-determined] y penderfyniad, wrth gael gwybod nad oedd yr Arolygiaeth yn debygol o ganiatau’r datblygiad?

Yn amlwg, mae’r drefn bresennol o benderfynu ar hap a damwain (dyna sydd yr olwg) p’un ai’r Llywodraeth neu’r Arolygiaeth fydd yn gwneud penderfyniad ar gais yn hollol anaddas.

Mae’n arwain at y canfyddiad mai am resymau gwleidyddol, nid egwyddorion neu ar sail canllawiau gwrthrychol, mae Gweinidogion yn dewis gwneud penderfyniadau ar faterion cynllunio. Trueni mawr felly yw darganfod nad ydy’r Llywodraeth am newid y drefn sydd yn rhoi’r grym i Weinidogion Cymru dynnu penderfyniad oddi ar yr Arolygiaeth “os maent yn ei gweld yn addas”. Fel y gwelwn yn ddiweddarach, mae’r ymarfer hon yn mynd yn groes i’r angen statudol i’r Arolygiaeth gael ei gweld yn annibynnol.

I droi yn ôl at y diffiniadau o’r Arolygiaeth:

  • Ydy’r penderfyniadau a gymerir trwy’r system yma wir o “safon uchel… wedi seilio ar egwyddorion tryloywder, tecwch a du-dueddrwydd”?
  • Ydy’r Arolygiaeth wir yn “asiantaeth annibynnol weithredol Llywodraeth Cymru”?

Mae’n bur debyg nad yng nghesail y Llywodraeth, o fewn adeilad y Llywodraeth ym Mharc Cathays y dyle’r Arolgyiaeth fyw.

Mae ‘na mwy i’r stori yma. Mae Erthygl 6.1 o’r Confenswin Hawliau Dynol Ewropeaidd yn mynnu:

wrth bwyso a mesur ei hawliau sifil a’i ddyletswyddau… mae pawb â’r hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus… gan dribiwnal annibynnol, di-duedd statudol cyfreithlon

Mewn achos llys yn 1995 (Bryan v UK (44/1994/491/57)), canfyddiad Llys Hawliau Dynol Ewrop oedd:

38.   It is true that the inspector was required to decide the applicant’s planning appeal in a quasi-judicial, independent and impartial, as well as fair, manner (see paragraphs 21 and 22 above). However, as pointed out by the Commission in its report, the Secretary of State can at any time, even during the course of proceedings which are in progress, issue a direction to revoke the power of an inspector to decide an appeal (see paragraph 23 above). In the context of planning appeals the very existence of this power available to the Executive, whose own policies may be in issue, is enough to deprive the inspector of the requisite appearance of independence, notwithstanding the limited exercise of the power in practice as described by the Government and irrespective of whether its exercise was or could have been in issue in the present case. For this reason alone, the review by the inspector does not of itself satisfy the requirements of Article 6 (art. 6) of the Convention, despite the existence of various safeguards customarily associated with an “independent and impartial tribunal”

Penderfynodd y Llys mai yr hawl i herio penderfyniadau yn y llysoedd oedd yn golygu bod cyfundrefn Prydain yn cydymffurfio ag anghenion Confensiwn Hawliau Dynol. Ond mae’n debygol mai penderfyniad ymylol yw hwnnw. Dyma rhan o adroddiad Pwyllgor Dethol oedd yn ystyried y cwestiwn yma yn 2000:

Mae rôl a strwythur yr Arolygiaeth Gynllunio i’r dyfodol i’w weld yn fregus gan rhai gyda dyfodiad hawliau a deddfwriaeth newydd yn y DU… Y cwestiynau pwysicaf ydy: a fydd newidiadau bach i ffordd weithio’r Arolygiaeth yn ddigonol, neu a oes angen diwygiad mwy sylfaenol, ac a ddyle Llwyodraeth weithredu cyn dyfodiad achosion prawf yn y llysoedd.

Mae un canfyddiad arall gan Llys Hawliau Dynol Ewrop o ddiddordeb i’r achos hon. Yn Langborger v Sweden (1989), ceisiodd y llys ymrafael â diffiniad ‘tribiwnal annibynnol a di-duedd’:

32.   In order to establish whether a body can be considered “independent”, regard must be had, inter alia, to the manner of appointment of its members and their term of office, to the existence of guarantees against outside pressures and to the question whether the body presents an appearance of independence (see, inter alia, the Campbell and Fell judgment of 28 June 1984, Series A no. 80, pp. 39-40, para. 78)…

34.   Because of their specialised experience, the lay assessors, who sit on the Housing and Tenancy Court with professional judges, appear in principle to be extremely well qualified to participate in the adjudication of disputes between landlords and tenants and the specific questions which may arise in such disputes. This does not, however, exclude the possibility that their independence and impartiality may be open to doubt in a particular case.

35.   In the present case there is no reason to doubt the personal impartiality of the lay assessors in the absence of any proof. As regards their objective impartiality and the question whether they presented an appearance of independence, however, the Court notes that they had been nominated by, and had close links with, two associations which both had an interest in the continued existence of the negotiation clause. As the applicant sought the deletion from the lease of this clause, he could legitimately fear that the lay assessors had a common interest contrary to his own and therefore that the balance of interests, inherent in the Housing and Tenancy Court’s composition in other cases, was liable to be upset when the court came to decide his own claim.

Cymeraf ar ddeall bod o leiaf un cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru ar banel cyfweld Arolygwyr pan fydd recriwtio.

A oes ‘cysylltiadau agos’ rhwng Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth? A ydy’r Arolygwyr yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru? A ydy’r Arolygiaeth yn ‘rhoi’r argraff o weithio’n annibynnol’?

Ble mae hyn oll yn gadael y Cylchffordd Rasio?

Erbyn hyn, dim ond archwiliad cyhoeddus trylwyr fydd yn ein helpu i ddod i wybod yr hyn sy wedi digwydd wrth i Lywodraeth Cymru a’i Weinidogion (gam)ddefnyddio’u dylanwad i sicrhau caniatâd cynllunio i’r cynllun hwn. Ai Pwyllgor Craffu’r Prif Weinidog, ynteu Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol fydde mwy addas i’r perwyl?

Mae’n debyg y bydde unrhyw her gyfreithiol yn erbyn y Cylchffordd Rasio yn rhwym o lwyddo. Mae Llywodraeth Cymru, trwy ymyrryd mewn llu o ffyrdd gwahanol ym mhob rhan o’r prosiect yma, yn ddigon eironig wedi lladd unrhyw obaith o lwyddiant i’r datblygiad.

Sylwadau

Un ymateb i “Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Mwy Fyth o Lygredd”

  1. […] ← Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Mwy Fyth o Lygredd […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *