Amser i William Graham Gasglu ei Bensiwn?

Mae’r newyddion bellach ar led fod Cronfa Pensiwn Aelodau’r Cynulliad wedi buddsoddi mewn rhai cwmniau amheus iawn. Fe gewch chi weld y rhestr lawn o’r buddsoddiadau fan hyn, ond dyma’r crynodeb:

  • Mae o leiaf £0.8 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn cwmniau tanwydd ffosil, gan gynnwys rhai o’r cwmniau sy’n bennaf gyfrifol am newid hinsawdd (a rhai sy wedi bod yn lobio’n ffyrnig yn erbyn mesurau i daclo newid hinsawdd). Maent yn cynnwys 2 o’r 10 cwmniau glo mwyaf y byd, 5 o’r 100 cwmniau olew a nwy yn y byd, ac un cwmni sy’n cynhyrchu olew o dywod tar yn Canada. 
  • Miloedd wedi’u buddsoddi mewn cwmniau sy wedi gweithredu’n unswydd yn erbyn buddiannau Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Burberry a gaeodd ffatri yn y Rhondda yn 2007 a Monsanto, a helpodd greu un o safleoedd mwyaf llygredig y DU: Chwarel Brofiscin, ger Groesfaen (ardal Llantrisant). 
  • Mae £180,000 wedi’i fuddsoddi mewn cwmniau tobaco.
  • Mae mwy na £50,000 wedi’i fuddsoddi mewn cwmniau hapchwarae.
  • Mae’n amhosib olrhain tynged gwerth o leiaf £10 miliwn o fuddsoddiadau, oherwydd maent wedi’u buddsoddi mewn ‘cronfeydd’ nad oes manylion ar eu cyfer.

Nid record balchder o bell ffordd mo’r rhestr hon. A mae’n werth nodi, rhag ofn bod diddordeb â’r Ymddiriedolwyr, bod cronfeydd heb danwyddau ffosil yn rhagori ar gronfeydd sy’n eu cynnwys.

Ond sut gafodd y Cynulliad yn y fath sefyllfa?

Mae’n debyg bod criw o ymddiriedolwyr pensiwn wedi’u dethol o blith y pedair plaid yn y Cynulliad, ynghyd ag aelod o’r cynllun sy’n hawlio’r pensiwn yn barod. Dyma nhw:

  • William Graham (Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr)
  • David Melding
  • Jocelyn Davies
  • Mike Hedges
  • Peter Black
  • Gareth Jones (yn hawlio’r pensiwn eisoes)

Arnyn nhw, felly, mae’r cyfrifoldeb o graffu ar y gronfa bensiwn. Ond pa mor awyddus fydde nhw i gymeradwyo rhai o’r buddsoddiadau uchod? Doi i yn ôl at William Graham, ond dwi’n amau nad oedd yr un clem â nhw bod y fath fuddsoddiadau cywilyddus yn bodoli.

Mae’r ymddiriedolwyr yma, yn eu tro, yn cael eu cynghori gan staff o bedwar – gweision sifil (staff Comisiwn y Cynulliad, i fod yn fanwl gywir) sy’n treulio naill ai eu holl amser neu rhannau helaeth ohono yn delio â phensiynau’r Aelodau. Mae ‘na Ysgrifennydd y Cynllun, Pennaeth Pensiynau, Cyfrifydd a Rheolwr Pensiynau.

A mae nhwthau, yn eu tro, yn derbyn adroddiadau gan rheolwyr y cynllun, cwmni o’r enw Baillie Gifford. Yn flynyddol, paratoir adroddiad sy’n dangos perfformiad y buddsoddiadau (dyma’r un diweddaraf). Am y fraint o gomisiynu Baillie Gifford (cwmni Albaneg, gyda llaw), mae trethdalwyr Cymru yn talu bron i £140,000 y flwyddyn.

Mae’n debyg, ers cychwyn y cynllun pensiwn, does neb wedi gwneud yr ymholiadau mwyaf sylfaenol ynghylch tynged y buddsoddiadau. Wedi’r cwbl, gwaith dwy awr oedd gwneud y dadansoddiad yma.

Mae’n debyg hefyd mai dyma yw trefn cymeradwyo’r buddsoddiadau:

  • Mae Baillie Gifford yn rhoi ffigyrau’r buddsoddiadau a’u perfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf, yn grynswth (hynny yw, heb unrhyw fanylion am yr union cwmniau a fuddsoddir ynddynt).
  • Mae staff y Cynulliad yn paratoi adroddiad (cut and paste o’r flwyddyn flaenorol o edrych arnynt) sy’n adrodd fod pob dim yn iawn.
  • Mae’r Ymddiriedolwnyr yn darllen yr adroddiad gan gymryd bod y gweision sifil yn gwneud eu gwaith yn drylwyr, yn rhoi tic yn y bocs a mae pawb yn mynd adre’n hapus.

Mae’r broblem sy wedi codi yma yn deillio o safbwynt buddsoddi Baillie Gifford, a diffyg ymdrech gan y gweision sifil. Dyma ddatganiad buddsoddi Baillie Gifford:

“Baillie Gifford considers environmental, social and governance issues when analysing and reviewing a
company, and there is a dedicated Corporate Governance Team who also takes on the share-ownership responsibilities for our clients.

Their approach to the social and environmental aspects of share ownership is based on engagement and dialogue rather than exclusion. Using in-house and external research, they identify key issues relating to their clients’ shareholdings and discuss them with the companies concerned. In this way, they encourage
companies to monitor and address the material social and environmental risks and opportunities facing their businesses. They believe that this process can contribute to the long term value of their clients’ investments”

Yn y byd sydd ohoni, dydy safbwynt Baillie Gifford ddim yn edrych yn un tra egwyddorol. Os mae cwmniau fel y rhai yn yr adroddiad yma wedi llithro trwy’r rhwyd, anodd gweld pa rai fydde’n cael eu dal ganddi.

Beth yw safbwynt buddsoddi’r Cynulliad? Mae’n amhosib dweud, achos mae’r Cynulliad wedi gwrthod cyhoeddi eu Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi. Ond mae’n bur debyg na wnaethpwyd unrhyw graffu ar y buddsoddiadau eu hun.

Ah, egwyddorion.

Dyma’r ymateb a gawsom gan Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, William Graham:

“The Trustees have a legal duty to act in the best (financial) interests of Scheme beneficiaries, while the Pensions Regulator, the Government body, responsible for regulating work-based pension schemes in the UK has stated that trustees have a ‘fiduciary duty to choose investments that are in the best financial interests of the scheme members – for example, you must not let your ethical or political convictions get in the way of achieving the best returns for the scheme’...

To improve transparency the Trustees receive regular reports from Baillie Gifford on their Corporate Governance and Socially Responsible Investment policies…

Mae dau beth yn synnu yn y datganiad yma, heblaw am y ffaith ei fod yn gwbl anghywir.

Yn gyntaf, mae William Graham yn honni nad oes dim yn trechu elw. Yn syml, yr hyn mae’n dweud yw pe bydde elw i’w wneud wrth fuddsoddi mewn stociau cwmniau arfau, pornograffi, offer arteithio ac yn y blaen, fydde dim problem ag Ymddiriedolwyr y cynllun. Wedi’r cwbl, os mae cwmni tywod olew, tobaco a gamblo i gyd yn dderbyniol, does ‘na’r un pydew na gaiff ei blymio gan William Graham.

Yn ail, ‘gwella tryloywder’ ydy nod yr Ymddiriedolwyr. Ond oni ddyle cynnwys y gronfa hon fod yn hollol dryloyw i’r sawl sy’n talu’r mwyafrif iddi? Sef ninnau, y trethdalwyr (cyfraniad o odduetu £1.2 miliwn pob blwyddyn). Ddyle’r un gronfa bensiwn fod yn fwy tryloyw na’r un yma.

Ond ‘yn gwbl anghywir’? Sut felly?

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi dwys ystyried y problemau a achosir gan y (diffyg) dealltwriaeth o’r term ‘fiduciary duty’. Dyma yw eu casgliadau:

“trustees should take into account factors which are financially material to the performance of an investment. Where trustees think ethical or environmental, social or governance (ESG) issues are financially material they should take them into account.

However, while the pursuit of a financial return should be the predominant concern of pension trustees, the law is sufficiently flexible to allow other, subordinate, concerns to be taken into account. We conclude that the law permits trustees to make investment decisions that are based on non-financial factors, provided that:

  • they have good reason to think that scheme members share the concern; and
  • there is no risk of significant financial detriment to the fund”.

Bu adroddiad Comisiwn y Gyfraith ymddangos yn 2014. A’r gwybodaeth a ddaeth o enau William Graham? Mae’n dyddio o 2007.

Wrth ddweud bod yn “rhaid i’r cynllun beidio ag ystyried ffactorau moesol neu wleidyddol” mae William Graham wedi camarwain pobl Cymru. Ar yr un pryd, mae wedi dangos diffyg cydymdeimlad llwyr â phobl lawr gwlad.

Pôl

 

O safbwynt Ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn, efallai ei bod hi’n hen bryd i Mr Graham gasglu ei bensiwn.

Sylwadau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *