Oes rhagor o gyfrinachau i ddod o du Cyfoeth Naturiol Cymru?
Dwi wedi chwilota ym mhob agenda, a chofnodion pob cyfarfod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Does ‘na ddim sôn am Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent. A hwn, er yr holl broblemau amlwg mae safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achosi i’w hun. Os byddwch yn chwilio am drafodaeth ar lefel Bwrdd y sefydliad, byddwch yn dod i’r casgliad mai pwnc ymylol, dibwys ydy’r Cylchffordd.
Ond nid dyna’r gwirionedd. Oherwydd er nad oes ‘na’r un sôn am y datblygiad dadleuol hwn ar gyfyl cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, dydy hynny ddim yn gyfystyr â diffyg trafodaeth.
Oherwydd mae papur tair tudalen yn bodoli, sydd wedi’i ddisgrifio fel papur “to the Board: Circuit of Wales update 2 September 2013”.
Mae’r papur yma yn ddadlennol. Mae’n disgrifio:
Background… the scheme brings with it significant environmental impact relevant to NRW’s remit.
Loss of peat soils and climate change impact. The proposal would result in the significant disturbance / loss of peat and peaty soils (potentially over 700,000 cubic metres)… This loss of peat has implications for carbon sequestration, releases of carbon dioxide to the atmosphere and ecosystem goods and services such as water retention and filtering. On current available information, the proposed payback time of carbon mitigation measures is up to 89 years.
Landscape. NRW considers that the impacts up the Brecon Beacons National Park have been under estimated and not addressed at the outline stage. The Environmental Statement acknowledges that 3 viewpoints within the BBNP would experience a significant effect on visual amenity, as well as the tranquillity aspects of the National Park and noise for residents.
Biodiversity loss. The proposal would result in the loss of over 230 ha of Biodiversity habitat including priority Biodiversity Action Plan habitats. To compensate for the loss of habitats, mitigation land has been identified on an area of c250ha of moorland adjoining the application site. It is proposed that this area be managed to improve the quality of existing habitat. This was offered prior to the determination by Blaenau Gwent but considered insufficient by NRW since it did not adequately compensate for the direct loss of habitat.
Loss of watercourses. All the existing watercourses within the main development footprint would be lost or culverted. The applicant was asked to make provision to seek to avoid/mitigate or compensate for the loss of watercourse and seasonal ponds, including assurances for the long term protection and maintenance of the existing watercourses/seasons ponds and the landscape around them. To date no direct mitigation or compensatory measures have been considered either on or off site for the loss of watercourses.
Groundwater. Details of the level of groundwater have not been provided in the ES or its addendum. NRW objected due to lack of information and stated that this information should be provided and assessed prior to determination of the application. This information is required to assess the impact of a proposed petrol filling station and location of associated fuel tanks. The application site impinges on on a local potable water supply catchment and Dwr Cymru have raised concerns of the risk that the proposed development would bring to the contamination of drinking water supplies.
Common land. The 340 hectares of the proposal would be de-registered as Common Land. NRW is concerned that the future implications for future grazing on the adjacent areas of the common have not been fully considered, in particular the implications for future grazing on the heath communities that form part of the Mynydd Llangatwg Special Area of Conservation.
Dim byd syfrdanol am hynny; fel y mae’r papur ei hun yn amlygu, mae Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent yn:
“tynnu sylw cyfryngau lleol a chenedlaethol. Mae CNC yn rhoi gwybodaeth i’r cyfryngau ond yn gyffredinol wedi gwrthod cyfweliadau”
Ond y ffaith yw bod yr holl broblemau a nodir uchod yn cael eu rhestru ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru ddweud wrth y Gweinidog nad oedd angen galw’r cais i mewn am ystyriaeth Weinidogol. Hynny yw, bod yr “effeithiau amgylcheddol sylweddol” yma i gyd o bwys lleol yn unig.
Ydy bygythiad posib i ddŵr yfed yn fater o bwys lleol yn unig? Beth am yr effaith sŵn a restrir fel problem i ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol? Ac effeithiau hinsawdd sylweddol fydd ond yn cael eu had-dalu ar ôl 89 o flynyddoedd?
Unwaith eto, mae’n rhaid gofyn cwestiynau am agwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tua’r broses yma. Oedd ymyrraeth y Gweinidog wedi darbwyllo ar uwch-swyddogion y sefydliad fel eu bod yn teimlo bod yn rhaid iddynt beidio rhwystro’r datblygiad? Emyr Roberts a Graham Hillier yw’r rhai i wybod, tybiwn i.
Gan bod y pwnc yma mor ddadleuol, ac o bwys lleol a chenedlaethol, base dyn yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru arddel tryloywder i sicrhau bod pob dim yn agored i’w graffu.
Ond pam felly nad oes yr un cyfeiriad at y papur yma yn y cofnodion na’r agendau i gyfarfodydd y Bwrdd ar 4 Medi 2013 (na chyfarfod y Bwrdd ar 16 Hydref 2013)? Ai dyma’r unig achos erioed i’r’ Bwrdd trafod y Cylchffordd Rasio? Beth sydd â Chyfoeth Naturiol Cymru i guddio?
Tra ydym ni’n sôn ddiffyg tryloywder, pam nad ydy Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi’r papurau a ddateglir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn yr un man ag y mae’n rhestri’r ceisiadau eu hun? Pam bod angen i rywun anfon ebost “at atiteam@naturalresourceswales.gov.uk gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod ATI” er mwyn cael gafael ar y gwybodaeth
A pham, os mae’r sefydliad wedi’i ymrwymo i dryloywder, mai nhwthau sy’n penderfynu pa dogfennau i’w cyhoeddi a pha rhai i gadw iddynt hwythau?:
Dylid nodi nad yw’r cofnod datgeliadau yn rhestru popeth a ryddhawyd o dan y Ddeddfwriaeth Mynediad at Wybodaeth. Mae’r meini prawf ar gyfer datgelu ymatebion yn cynnwys
- budd sylweddol i’r cyhoedd
- dangos gweithdrefnau mewnol
- dangos sut mae arian cyhoeddus wedi cael ei wario
Pwy yw’r corpws gorau i farnu os oes ‘na budd sylweddol i’r cyhoedd? Y sawl sydd o dan y chwyddwydr neu’r cyhoedd ei hun?
Oes rhaid i ni gymryd bod Peter M yn gywir pan ddywedodd bod ag Emyr:
[p]aranoia ynghylch gwneud pethau yn gyhoeddus, FoIs ayyb
Gadael Ymateb