Gwyllt, Nid Gwallgof

Feral.

Dwi ddim am wneud arfer o adolygu llyfrau fan hyn. Ond mae Feral wedi newid sut dwi’n edrych ar dirlun Cymru. A mae wedi procio’r meddwl ddigon i fi gynnig syniad herfeiddiol i drawsffurfio moroedd Cymru.

Mae Feral yn disgrifio’r modd y mae tirwedd Cymru (a gwledydd Prydain) wedi newid. Erbyn hyn, er bod ucheldiroedd ein gwlad yn edrych yn ‘naturiol’, maent ond yn edrych felly oherwydd ein bod ni i gyd wedi arfer i’w gweld wedi’u dinoethi o lystyfiant (heblaw porfa). A defaid yw’r drwg yn y caws.

Mae ‘Shifting Baseline Syndrome’ yn ffordd o ddisgrifio paham rydyn ni’n ystyried gwedd bresennol yr ucheldiroedd yn naturiol. Mae pob cenhedlaeth yn credu mai sefyllfa bywyd gwyllt eu plentyndod yw’r un naturiol, a bod pethau yn dirywio byth ers hynny. Ond y gwir amdani ydy bod y dirywiad wedi rhygnu ymlaen ers canrifoedd a mwy, a bod y byd o’n cwmpas yn cynnig cyfleon prin iawn, iawn i ymdrwytho ym myd natur gwyllt.

Mae George Monbiot yn rhoi’r dystiolaeth bod ein hucheldiroedd wedi’u gorchuddio gan goed tan yn weddol diweddar (tua 1,300 o flynyddoedd yn ôl (t.66)). Fforestydd glaw Iwerydd oeddynt, a phytiau bach, bach o’r cynefin hwnnw sydd ar ôl bellach yng Nghymru.

Yn ôl Monbiot, mae tiroedd Cymru mewn well siâp na rai Lloegr a’r Alban o safbwynt perchenogaeth (t.156). Fel canlyniad i Gyllideb Lloyd George yn 1909 a gynyddodd treth incwm a threth stent, gwerthwyd llawer o ystadau mawrion Cymru gan y Saeson oedd yn eu perchen, a’u prynu gan eu tenantiaid Cymreig. Erbyn hyn mae’r ffermydd yn dechrau uno i fod yn ffermydd mwy. Mae’r broses canoli tir yn ail-ddechrau, a ffermau bach yn dechrau diflannu. Ys dywed adroddiad gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr:

na fydd 21% o ffermydd yr ucheldir yn goroesi hyd y pum mlynedd nesaf (t.156)

Dyw’r tybiad hwn ddim yn syndod os ystyriwch y ffeithiau a osodir gan Monbiot yn ei lyfr:

  • Ar gyfartaledd, mae cymhorthdal i ffermydd defaid ar yr ucheldiroedd oddeutu £53,000
  • Mae incwm cyfartal ffermydd oddeutu £33,000 (tt.160-161)

Beth yw’r cyfanswm o gymhorthdaliadu ffermio ym Mhrydain? £3.6 biliwn. Sy’n golygu bod pob teulu yng ngwledydd Prydain yn talu £245 fesul blwyddyn i gyllido Polisi Cyffredin Amaeth (sy’n talu’r rhan fwyaf o’r cymhorthdaliadau)(t.161).

Ydy hwn yn cynrychioli gwerth da am arian? Ys dywed Monbiot:

Mae defnyddio arian cyhoeddus i roi cymhorthdal i fusnes preifat yn bolisi amheus ar unrhyw adeg. Pan fydd gwasanaethau cyhoeddus pwysig yn cael eu torri mae hyd yn oed yn anoddach i gyfiawnhau… a mae’r holl haelioni yma yn talu am ddinistriad ecolegol (t.161)

Er bod tir pori yn estyn dros ardaloedd helaeth o dir Cymru, mae ffermio ond yn cyfrannu £400 miliwn i economi’r wlad. Mae ‘cerdded er hamdden’ yn cyfrannu £500 miliwn i economi Cymru, a mae ‘gweithgareddau bywyd gwyllt a natur’ yn cyfrannu £1,900 miliwn i economi Cymru (t.160). Mae’r ddadl dros ffermio (defaid) ar yr ucheldiroedd wedi’i drawsnewid i ddadl gymdeithasol-ddiwyllianol-ieithyddol bellach, nid ddadl economegol.

Mae Monbiot yn cynnig datrysiad i’r broblem o ffermwyr yn cael eu gorfodi i gadw eu tiroedd yn glir o goed (sydd yn ei dro yn arwain at bori gan ddefaid). Mae’r trethi sy’n talu am gymhorthdaliadau yn dod o bawb, tlawd a chyfoethog. Ond i’r bobl gyfoethog mae’r cymhorthdaliadau yn mynd yn bennaf. Pe bydde ond 100 hectar o dir pob ffermwr yn gymwys ar gyfer cymhorthdaliadau, bydde’n rhoi mantais i’r ffermwyr bach, yn hytrach na’r ffermwyr mawr – pobl fel yr Earl of Plymouth, yr Earl of Moray, y Duke of Westminster a’r teulu Vestey, sydd oll yn derbyn dros £1/2 miliwn y flwyddyn, diolch i garedigrwydd ti a fi. Yn 2013 cynigiodd Comisiwn Ewrop gyfyngu’r uchafswm cymhorthdal at €300,000 y flwyddyn. Ond cafodd ei drechu – yn bennaf, oherwydd lobîo ffyrnig gan Lywodraeth Prydain ac Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

Mae rhai mudiadau ac unigolion yn ei chael hi’n anodd yn y llyfr. Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn yn ymddangos yn gwbl ddiymadferth wrth sicrhau bod Glaslyn

ar gost uchel, yn cynnig holl ambience gaeaf niwclear (t.215)

Bu Morgan Parry hyd yn oed yn disgrifio’r man fel

amgylchedd ucheldir hesb (t.216)

A dydy dadl yr Ymddiriedolaeth bod diffyg torri a llosgi grug yn arwain at ddirywiad ecolegol ddim yn ennyn ymateb ffafriol gan Monbiot (tt.220-223):

Os wnewch herio’u rheolaeth o’r tir y byddant yn crybwyll yr ateb arswydus ‘diffyg pori’. Sut all ein hamgylchedd dioddef diffyg pori gan anifail o Mesopotamia? … Ydy glannau ein nentydd yn dioddef o ddiffyg Himalayan balsam…? (t.223)

Roeddwn wedi siomi i weld ymatebion Elin Jones – oedd yn Weinidog ar y pryd – i ddau o gwestiynau Monbiot. Nawr, dwi’n cymryd bod Gweinidogion ar draws pob llywodraeth yn y byd yn mynd i allu gael crap go dda ar rannau yn unig o’u portffolios. Dyna natur bodau dynol; dim ond hyn a hyn o arbenigedd mae’n bosib cronni a chadw. Ond oedd Elin wir yn credu mai plannu coed ar ucheldiroedd Cymru yn mynd i ychwanegu at newid hinsawdd (t.164)? A pham derbyniodd hi gyngor CEFAS yn hytrach na chyngor Cyngor Cefn Gwlad Cymru am effaith tebygol caniatau pysgota sgalop o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion (t.253)? Mae disgrifiad Monbiot o’r dull hynod o ddinistriol yma (t.252) yn erchyll.

Ac er mor fawr yw fy mharch at Morgan Parry (ac yn amlwg parch Monbiot – mae Morgan yn destun cof fersiwn clawr meddal llyfr Feral), dwi’n anghytuno â rhan o’i ymateb i’r syniad o drawsnewid yr ucheldiroedd i fod yn gynefin coediog:

“Cytunaf fod byd arall yn bosib a mwy dymunol… Hoffwn feddwl allem agor ein meddyliau i’r posibiliad y gall tirweddau arall bodoli, nad ydynt yn ddibynnol ar ffermio i’w cynnal…” Ond mae’n rhaid i’r newid beidio dod o lywodraethau a’u hasiantaethau; cyfrifoldeb ymgyrchwyr i newid barn y cyhoedd ydyw er mwyn gwireddu’r weledigaeth (t.225)

Os nad ydy pobl sydd yn uchel ym mheirianwaith asiantaethau a llywodraethau yn dylanwadu ar eraill er mwyn newid y gyfundrefn bresennol, pa obaith sydd gyda ni i drawsnewid Cymru er gwell, mewn unrhyw faes? Mae terfynau i egni wirfoddolwyr ac ymgyrchwyr, wedi’r cwbl. Tybed ai ei ymatebion pwyllog felly a achosodd i Morgan fod mor uchel yn y system ffurfiol, swyddogol, er ei feddylfryd llawn blaengaredd.

Nid defaid yn unig sydd yn ennyn sylw Monbiot. Gallwch weld – a chlywed – ddarn hollol drawiadol am fleiddiaid ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone fan hyn (4 munud gwerth ei dreulio).

Gwyllt, nid gwallgof, ydy llyfr Monbiot “Feral”. Yn barod mae wedi newid y ffordd dwi’n edrych ar dirlun Cymru. A mae wedi gwneud i fi chwenychu’r mannau gwyllt yn fy ngwlad fy hun.

A’r syniad fydd yn trawsffurfio moredd Cymru? Fe ddaw, yn erthygl nesaf Naturiaethwr.

Sylwadau

2 ymateb i “Gwyllt, Nid Gwallgof”

  1. Afatar Crefishgyn
    Crefishgyn

    Tybiwn i fod Mr Monbiot heb edrych ar astudiaethau palaeoamgylcheddol y 50 mlynedd diwetha sy’n dangos bod y coedwigoedd naturiol wedi dechrau diflannu o’r ucheldiroedd yn ystod y Mesolithig, dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl a bod y broses wedi cynyddu yn ystod y Neolithig, ar ôl dyfodiad y ffermwyr cyntaf i’n gwlad.

  2. Afatar naturiaethwr

    Ddim yn gwybod. Dwi’n tybio bod Monbiot wedi bod yn weddol trylwyr. Mae wedi edrych ar sawl astudiaeth, paill hanesyddol yn bennaf. Y dystiolaeth bennaf, wrth gwrs, fydde i weld a fydde bryniau sydd ar hyn o bryd heb goed yn gallu troi’n goediog. Bydde angen arbrawf di-ddefaid ar raddfa sylweddol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *