Mae’r dyfroedd wedi eu corddi rhywfaint yn ddiweddar. Bu i Andrew RT Davies – arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad – ysgrifennu at Ymddiriedolwyr Sefydliad Materion Cymreig (SMC) gan led-awgrymu na ddyle Lee Waters ddal yn ei swydd. Mae Andrew Davies yn credu mai goddrychol fydde’r Sefydliad nawr bod Lee yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.
Ymunodd Adam Price yn y ffrae heno.
Personally I have always found @Amanwy fair and non-partisan without exception in his time at the helm at @IWA_Wales and before
— Adam Price (@_Adam_Price) October 28, 2015
Os oes yna unrhyw werth i fy marn, dwi’n cytuno’n llwyr ag Adam. Ond yn fwy diddorol o lawer oedd neges nesaf Adam:
Though I was bemused to be turned down for @IWA_Wales Director role as it would be like “a declaration of war on the Welsh Labour Govt” .
— Adam Price (@_Adam_Price) October 28, 2015
Mae’r gwybodaeth yma yn datgelu cyfrolau ynghylch Y Sefydliad Cymreig.
Gadewch i ni fod yn glir: simo i’n beio Ymddiriedolwyr yr SMC am beidio dewis Adam. Mi oedden nhw, yn eu tyb nhw, yn gwneud y dewis cywir ar sail cais a chyfweliad. Pwy a wyr pa mor dyngedfennol oedd safbwynt gwleidyddol Adam yn eu dewis.
Ond y ffaith bod pleidioldeb ymgeisydd hyd yn oed wedi’i grybwyll yn hynod o ddiddorol.
Mae’n golygu bod Ymddiriedolwyr SMC yn credu y galle niwed cael ei achosi i’r Sefydliad pe bydde rhwyun uchel-ei-broffil o’r blaid ‘anghywir’ ddod yn Gyfarwyddwr yr SMC.
Nid oes rhaid, wrth gwrs, i’r rhagdybiad yma fod yn wir iddo fod yn ddifrifol. Y ffaith ei fod yn bodoli o gwbl yn adrodd y cyfan.
Mae’n dangos bod Llywodraeth Cymru, a Gweinidogion Cymru, yn cael eu gweld yn blwyfol ac yn ddialgar gan bobl sydd yn uchel iawn eu parch ym myd cyhoeddus Cymru.
Ond beth sydd â wnelo hwn i gyd â’r amgylchedd?
Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae tair elusen amgylcheddol sy’n hysbys iawn i ni i gyd wedi cael rhybuddion gan y Sefydliad Cymreig.
Mewn dwy achos, fe rhybuddiwyd yr elusennau gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) na fyddent yn cael unrhyw arian bellach gan CNC petaen nhw’n beirniadu’r sefydliad hwnnw.
Ac yn yr achos arall, Llywodraeth Cymru (neu swyddogion oddi fewn i’r llywodraeth) a roddodd y rhybudd: peidiwch â’n beirniadu neu ni fyddwch yn derbyn arian cyhoeddus gennym.
Tair elusen gwahanol; dau Sefydliad Cymreig: un neges digamsyniol. Neb i drafod methiannau’r Sefydliad Cymreig.
Plwyfol. Dialgar.
A phris y distawrwydd i’w dalu gan ein harian ni i gyd. Ni sy’n talu am i neb feirniadu’r llywodraeth.
Dyma un o’r rhesymau mae bywyd yng Nghymru mor sgleroteg. Prin iawn yw’r lleisiau sy’n codi yn erbyn Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau, tu draw i’r pleidiau gwleidyddol. Dwi’n falch dros ben i weithio i un ohonynt, gyda Chyfeillion y Ddaear.
Mae pobl o bron pob plaid – a heb blaid – yn rhethru ynghylch y Sefydliad Prydeinig. Tŷ’r Arglwyddi anetholedig, diffyg cyfansoddiad Prydain, datganoli annheg neu annigonol, diffyg cyllido… mae’r rhestr yn hirfaith.
Ond ble mae’r lleisiau croch yma pan fydd y Sefydliad Cymreig yn tagu’r drafodaeth gyhoeddus?
Looking forward to the day when we can judge people not by the colour of their rosette but the content of their vision
— Adam Price (@_Adam_Price) October 28, 2015
Amen, Adam.
Gadael Ymateb