Naturiaethwr: Cymru a’i Hamgylchedd

  • Tri Diwrnod o Rybudd

    Druan ar Lywodraeth Cymru. Mis yn unig cyn dyddiad dechrau’r Ymchwiliad Cyhoeddus mae holl sylfaen eu cynlluniau rheibus yn y fantol. Achos – gyda thri diwrnod o rybudd yn unig – mae diawliaid Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain wedi newid y ffordd y dyle awdurdodau cyhoeddus ragweld twf traffig. Ond wrth gwrs, fel rydym wedi dod…

  • Cywilydd y Cyfryngau

    Cywilydd y Cyfryngau

    Ddoe, fe gyhoeddwyd adroddiad gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, ar y cyd â Greenpeace UK. Mi ddylech ei ddarllen. Dyma’r rhagymadrodd. Mae hyd at 400 o bobl yn cael eu lladd yn flynyddol oherwydd llygredd aer o bwerdy Aberddawan. Dyna un o gasgliadau adroddiad newydd o Gyfeillion y Ddaear a Greenpeace, sy’n dangos bod y llygredd gwenwyneg yn…

  • Troednodyn

    Bues yn dilyn – ac yn gwrthwynebu – y cynllun ffaeledig i godi trac rasio ym mlaenau’r cymoedd ers amser hir, ond digon yw dweud bod gwanc ac anghymwysder y datblygwyr eu hunain wedi cael effaith andwyol ar y prosiect. Sôn ydw i fan hyn am ymddygiad staff Cyfoeth Naturiol Cymru adeg ymyrraeth Alun Davies…

  • Y Gweinidog Teflon

    Mae awdur y blog yma â gwrthwynebiad hir-dymor i gynlluniau M4 Llywodraeth Cymru. Gallwch weld erthyglau yn sôn am: Ecolaeth gwastadeddau Gwent Honiadau di-sail y llywodraeth ynghylch tagfeydd traffig a’r effaith economegol Amcanestyniadau gwallus o ran niferoedd traffig Celwyddau Llywodraeth Cymru yn arddangosfeydd 2015 Ansawdd aer yng Nghasnewydd Diffyg dealltwriaeth ambell i wleidydd Ond mae’r…

  • Ergyd i Heddlu De Cymru

    Mae’r hawl i wrthdystio yn hawl syflaenol iawn, un sy’n cael ei adnabod gan Gonfensiwn Ewropeaidd Hawliau Dynol. Mae wrth wraidd cymdeithas wâr. Mi ddefnyddiais yr hawl hon heddiw, ar ddwy achlysur. Bore ‘ma, am 8.30, ymunais â chriw o bobl oedd wedi ymgasglu tu fas i Motorpoint Arena, lle cynhaliwyd arwerthiant arfau pennaf Prydain. Roedd…

  • Dadleuon Gwag yr M4

    Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai. Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl)…

  • Llygredd yng Nghasnewydd

    Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, wedi mynd i’r tonfeydd yn ddiweddar i gwyno ynghylch llygredd aer yng Nghasnewydd. @Naturiaethwr Pob bwyddyn mae 72 o bobl Casnewydd yn marw oblegid ansawdd o awyr wedi llygru gan traffig heolydd. Gwastraff o arian? — Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016 Ac mae Paul yn iawn i…

  • Diolch i’r Alban

    Heddiw, cyhoeddwyd map o’r holl ardaloedd newydd fydd ar gael i’r cwmniau ffracio weithredu ynddyn nhw. Un peth sy’n drawiadol am y map yma o ran Cymru. Does na’r un drwydded newydd wedi’i chaniatau yma. Pam hynny? Wedi’r cwbl, mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod yn rhaid mynd “ar ras” am nwy siâl? A…

  • Dafad(en) Ddu

    Dyw’r erthygl hon ddim yn dilyn trywydd arferol y blog. Ond gobeithio y bydd o werth i ambell i berson sy’n dioddef o ddafaden! O bryd i’w gilydd, fe dyfir dafaden ar droed plentyn neu llaw aelod o’r teulu. Sut i’w threchu? Gallwch fynd at y fferyllydd, lle darganfyddwch lu o foddion drud sy’n addo…

  • Y Sefydliad Cymreig

    Mae’r dyfroedd wedi eu corddi rhywfaint yn ddiweddar. Bu i Andrew RT Davies – arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad – ysgrifennu at Ymddiriedolwyr Sefydliad Materion Cymreig (SMC) gan led-awgrymu na ddyle Lee Waters ddal yn ei swydd. Mae Andrew Davies yn credu mai goddrychol fydde’r Sefydliad nawr bod Lee yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad yn…