Diolch i’r Alban

Heddiw, cyhoeddwyd map o’r holl ardaloedd newydd fydd ar gael i’r cwmniau ffracio weithredu ynddyn nhw.

14th round

Un peth sy’n drawiadol am y map yma o ran Cymru. Does na’r un drwydded newydd wedi’i chaniatau yma.

Pam hynny? Wedi’r cwbl, mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod yn rhaid mynd “ar ras” am nwy siâl? A dydy trwyddedu olew a nwy ar y tir ddim – eto – wedi’u datganoli. Dyna sydd i ddod pan ddaw Bil Cymru yn Ddeddf.

Y rheswm yw’r Alban. Hebddi hi, fe fydden ni heddiw yn torchi llewys i frwydro yn erbyn y ffracwyr ar draws rhannau llawer mwy helaeth o Gymru nag ydym ar hyn o bryd.

Cafwyd cytundeb gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, yn dilyn refferendwm annibynniaeth, ar feyseydd fydde’n cael eu datganoli (y Comisiwn Smith – Tachwedd 2014). Un o’r meyseydd oedd trwyddedu olew a nwy ar y tir:

The licensing of onshore oil and gas extraction underlying Scotland will be devolved to the Scottish Parliament. The licensing of offshore oil and gas extraction will remain reserved.

Mae’n hynod arwyddocaol mai canlyniad i addewidion Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn y dyddiau cyn y refferendwm oedd Comisiwn Smith. Heb y refferendwm, fydde Llywodraeth y DU ddim wedi ystyried datganoli’r pwerau yma. Pam fydden nhw? Wedi’r cwbl, rydyn ni wedi gweld mor or-awyddus ydy Llywodraeth y DU dros ffracio.

Buodd Plaid Cymru yn ceisio newid Bil Isadeilwaith yn San Steffan ym mis Rhagfyr 2014 i sicrhau y bydde’r un pwerau yn dod i Gymru, ond ni chafwyd cefnogaeth gan y pleidiau Ceidwadol, Democratiaid Rhyddfrydol na Llafur. Erbyn mis Ionawr 2015, daethom i wybod nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y pwerau yma.

Efallai y sylw cyhoeddus am y methiant yma oedd ei angen. Oherwydd rydym yn dilyn y trywydd nawr i Fil Cymru. Cefndir y Bil yma yw:

The Government established what became known as the St David’s Day process in November 2014. Its aim was to determine where political consensus lay in implementing the recommendations of Sir Paul Silk’s Commission on Devolution in Wales second report (Silk II) on the powers of the Assembly. The process also looked at whether there was political consensus to implement for Wales any elements of the Smith Commission proposals for Scotland.

Doedd ffracio erioed wedi’i ystyried gan y Comisiwn Silk. O ran ynni, buodd Adroddiad Silk yn destun cywilydd – ac mi allech ddarllen rhagor am y pwnc yma fan hyn. Yn gryno, roedd y diffyg pwerau ynni a gynigir o ran Silk yn gwbl drawiadol.

Y Comisiwn Smith felly oedd yn gyfrifol am i’r pwerau dros ffracio gael eu hystyried fel rhai fydde’n ddymunol eu datganoli i Gymru.

Ond pam na fydde Llywodraeth y DU ddim yn trwyddedu llu o ardaloedd yn yr Alban a Chymru cyn datganoli’r pwerau hynny?

Eto, trown i’r Alban. Ym mis Chwefror 2015 ysgrifennodd Gweinidog Ynni’r Alban, Fergus Ewing, at Lywodraeth y DU gan fynnu na ddyle trwyddedau newydd yn cael eu gorfodi ar yr Alban gan Lywodraeth y DU cyn i’r pwerau cael eu datganoli. Ac fe gafwyd cydsyniad gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth:

Mr Ewing wrote to the UK government, which still holds the powers over licensing fracking, not to issue any further licences until the power is devolved, as part of the package recommended by the Smith commission.

UK energy minister Matt Hancock told The Scotsman that the coalition government “agreed in principle” to the request from Mr Ewing and that it would not grant licences for fracking.

Sylwch nad oedd unrhyw sôn am Gymru yn natganiad Matt Hancock. Buoedd rhaid i ni aros tan fis Awst – chwech mis yn ddiweddarach – i gael cyhoeddiad y bydde’r un drefn yn berthnasol i Gymru:

UK Government Energy Minister Andrea Leadsom said: “We’re now confirming that no new licences will be awarded in Scotland or Wales, including as part of the 14th onshore licensing round.

Pwy a ŵyr pam gymerodd hi 6 mis i benderfynu bod Cymru yn haeddu’r un driniaeth â’r Alban. Os oes rhywun yn gwybod, dwi’n hapus iawn i ddiweddaru’r erthygl hon!

Yn ôl â ni i’r map. Pe na bydde Llywodraeth yr Alban wedi galw refferendwm ar annibynniaeth – a dod yn agos at ei hennill – fydde trwyddedu ffracio ddim wedi’i ystyried i ddatganoli i’r Alban.

Pe na bydde Llywodraeth yr Alban wedi gofyn am i Lywodraeth y DU beidio trwyddedu ffracio nes bod y pwerau yn nwylo yr Alban, bydde Llywodraeth y DU heddiw yn datgelu trwyddedau ffracio yn yr Alban.

A ninnau, y Cymry truenus. Dim ond oherwydd refferendwm yr Alban a Chomisiwn Smith ein bod yn derbyn pwerau trwyddedu. A dim ond oherwydd Gweinidog yn yr Alban ein bod ni ddim yn wynebu llu o gyfleon i’r ffracwyr heddiw.

Dioch i chi, yr  Alban.

Diolch am ein hamddiffyn o’r diwydiant ffracio.

 

Sylwadau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *