Dyw’r erthygl hon ddim yn dilyn trywydd arferol y blog. Ond gobeithio y bydd o werth i ambell i berson sy’n dioddef o ddafaden!
O bryd i’w gilydd, fe dyfir dafaden ar droed plentyn neu llaw aelod o’r teulu. Sut i’w threchu? Gallwch fynd at y fferyllydd, lle darganfyddwch lu o foddion drud sy’n addo lladd y peth o fewn dim o dro (wel, o fewn wythnosau, efallai). Ond bu ein profiad ni, o grafu hen groen allan o dwll yng ngwaelod troed ein plentyn yn nosweithiol a’i lenwi gyda rhyw ffisig hud, am fisoedd lawer cyn cael gwared ar y ddafaden, yn brofiad digalon. Profiad poenus i’r claf, anodd i’r rhieni, a hyd y driniaeth yn ein treulio rhywfaint fel teulu.
A wedyn, peth amser cyn trechu dafaden droed y plentyn, dyma dafaden yn ymddangos ar fy llaw i. Bues wrthi’n pori’r rhyngrhwyd am amser hir. Triais i’r tincture marigold a grybwyllwyd fan hyn heb unrhyw lwyddiant.
A wedyn dod o hyd i’r wefan hon. penderfynu mynd amdani am fy nafaden innau. A llwyddo, o fewn pedwar diwrnod mewn modd weddol diffwdan a rhad uffernol.
Os nad oes eisiau arnoch weld y lluniau, peidiwch fynd ymhellach. Mae rhai ohonynt yn ych. Ond maent yn profi mai dyma driniaeth sy’n costio’r nesaf peth i ddim, sy’n gweithio lot yn gyflymach na’r holl driniaethau y cewch chi o’r fferyllfa.
I gyd sydd angen yw finegr seidr (cider vinegar). Trochwch pêl gotwm â’r finegr a’i roi ar ben y ddafaden. Lapiwch dâp insiwleiddio/gaffer tape o ryw fath dros y cyfan. Ail-wneud cyn mynd i’r gwely a phan yn codi yn y bore. Gwyrthiol!
Sut mae’n gweithio? Hyd y gwelaf i, mae’r ddafaden yn ddioddef llawer iawn mwy difrifol na chroen iachus. Mae’r ddafaden yn prysur edwino tra bod y croen o’i chwmpas yn chwyddo a’i effeithio i raddau llawer yn llai.
Ydy hi’n boenus? Ydy, ond ddim yn ormodol. Ac mae’n cael gwared o ddafaden o fewn pedwar diwrnod, gyda gwelliant buan (crachen, craith a chroen).
Diwrnod Day 1 (27 Ebrill 2015)
Diwrnod Day 3 (29 Ebrill 2015)
Diwrnod Day 4 (30 Ebrill 2015)
Ar y pedwerydd diwrnod, cwympodd y ddafaden mas. Darn bach o gig oedd hi – a dyma lun (isod) a dynnir yn y fan a’r lle (ar hen ffôn, sy’n esbonio’r ansawdd gwael).
Diwrnod Day 4 (30 Ebrill 2015)
Mae’r lluniau canlynol yn dangos gwelliant y croen.
Diwrnod Day 4 (30 Ebrill 2015)
Diwrnod Day 5 (1 Mai 2015)
Diwrnod Day 6 (2 Mai 2015)
Diwrnod Day 8 (4 Mai 2015)
Diwrnod Day 10 (6 Mai 2015)
Diwrnod Day 12 (8 Mai 2015)
Diwrnod Day 18 (16 Mai 2015)
Diwrnod 29 (27 Mai 2015)
Bu’r profiad yma mor lwyddiannus i’r plentyn fynnu y tro nesaf y caiff ddafaden, finegr seidr amdani.
Pob llwyddiant i chi!
Gadael Ymateb