Llygredd yng Nghasnewydd

Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, wedi mynd i’r tonfeydd yn ddiweddar i gwyno ynghylch llygredd aer yng Nghasnewydd.

Ac mae Paul yn iawn i bryderu am lygredd aer yng Nghasnewydd – mae ymhlith y llefydd mwyaf afiaich ei awyr yng Nghymru. Ond os mae wir am weithredu ynghylch llygredd aer, nid yr M4 ddyle fod canolbwynt ei ymdrechion a’i rethreg. Achos o’r holl Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yng Nghasnewydd:

  • Mae Heol Casgwent yng nghanol y ddinas a dim oll i’w wneud â thraffig ar y draffordd
  • Mae Heol Malpas (wedi’i dynodi yn 2005), ar bwys Stryd Prospect, tamaid i’r gogledd o ganol y ddinas a mae problemau llygredd aer yn ymwneud â thraffig ar yr A4051, nid y draffordd
  • Mae ardal arall ar Heol Malpas (wedi’i dynodi yn 2011) i’r gogledd o’r draffordd ar bwys Heol Graig Park. Does â’r un hon ddim i’w wneud â’r M4
  • Mae Heol Caerllion i’r de o’r draffordd a thraffig ar y B4596, Heol Caerllion ei hun, sy’n gyfrifol
  • Mae Stryd Fawr, Caerllion yng Nghaerllion ac ymhell o’r draffordd
  • Ardal Rheoli Llygredd Aer ar gyfer un tŷ ar bwys y draffordd ydy Royal Oak Hill
  • Dau dŷ, un ar bob ochr o’r M4, sydd i’w canfod yn ardal Glasllwch
  • Dau dŷ i’r gogledd o’r M4 ac un i’r de sy’n gyfrifol am ardal Shaftesbury, er mae’r A4051 yn rhwym o gyfrannu at lygredd aer yn yr ardal hon
  • Dau dŷ i’r de o’r M4 sy’n gyfanswm ardal St. Julian’s

Felly, o’r naw Ardal Rheoli Llygredd Aer yng Nghasnewydd, does â phump ddim oll i’w wneud â’r draffordd. A mae’r pedwar ardal arall yn gwarchod 8 tŷ o lygredd. Mae Paul am i ni wario £2 biliwn er mwyn sicrhau awyr iach i breswylwyr wyth tŷ.

Nawr dwi ddim am eiliad yn dweud nad ydy iechyd pob unigolyn yn bwysig. Ond pan fo’r £2 biliwn hynny o wariant mewn cystadleuaeth â’r Gwasanaeth Iechyd yn gyffredinol, mae gwariant ar sail ansawdd aer i wyth teulu yn edrych braidd yn anghymesur.

Sut allem ni daclo ansawdd aer gwael mewn dinasoedd? Mae’r ateb wedi bod yn hollol glir ers amser pys. Mae’r holl ardaloedd rheoli llygredd aer uchod wedi’u dynodi oherwydd NO2 sy’n dod allan o bibellau ceir, bysiau a loriau. Felly yr unig ffordd i leihau’r llygredd hwnnw yw i leihau’r defnydd o gerbydau wedi’u pweru gan betrol a dîsl.

A mae gwneud hynny trwy:

  • Buddsoddi llawer iawn mwy mewn hwyluso teithio ar gefn beic ac ar droed, gan gynnwys gosod lonydd i feiciau sy wedi’u hamddiffyn rhag llif y traffig (yn 2006 bu Llywodraeth Cymru yn gwario 76% o’i gyllideb teithio ar heolydd a llai na 0.1% ar deithio’n iachus)
  • Sicrhau parthau 20mya ym mhob rhan o’r ddinas
  • Newid systemau teithio’r ddinas i’w wneud yn haws i gyrraedd canol y ddinas mewn bws a thrên (yn yr achos yma, cefnogi Metro De Cymru sydd angen – er bod Mr Flynn yn credu y bydde’r cyfraniad yn ‘ymylol
  • Cyfyngu ar ryddid ceir i gyrraedd canol y ddinas

A bydde £2 biliwn yn mynd ymhell, pell i ddatrys rhai o’r problemau yma.

Oes, mae llygredd ar grwydr yng Nghasnewydd. Ond pa lygredd sydd gwaethaf?

Llygredd aer digon gwael i achosi dynodiad rheoli llygredd i breswylwyr 8 o dai y sir (poblogaeth 145,700).

Neu’r llygredd sy’n mynnu gwario £2 biliwn ar gyllun sy wedi seilio ar rith a chelwydd fydd yn gyrru trwy 5 SoDdGA ac un SAC, a bydd â’r effaith o hybu rhagor o ddefnydd o geir – fydd yn ei dro yn gwaethygu ansawdd aer?


gan

Tagiau:

Sylwadau

2 ymateb i “Llygredd yng Nghasnewydd”

  1. […] ← Llygredd yng Nghasnewydd […]

  2. […] Ansawdd aer yng Nghasnewydd […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *