Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai.
Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl) tros ei hadeiladu mewn cyfres o erthyglau am:
- Ecolaeth gwastadeddau Gwent
- Tagfeydd a’r effaith andwyol ar economi Cymru (does dim tystiolaeth am y naill na’r llall)
- Traffig yn cynyddu (dydy hi ddim)
A mae erthygl bellach sy’n datgymalu honiadau Llywodraeth Cymru fod y byd yn mynd i ddod i ben os na fyddwn yn adeiladu’r draffordd hon yn o sydyn.
Ond mae’n debyg nad ydy rhai pobl a ddyle gwybod yn well wedi eu darllen. Felly dyma rai ffeithiau cryno i Paul Flynn a’i gyfeillion sydd â’u pryd ar wastraffu hyd at £2 billiwn ar gynllun diangen pan fo llai o draffig ar heolydd Cymru nawr nag y bu yn 2007 a phan fo gwasanaethau cyhoeddus yn gwegian o dan straen diffyg cyllid.
Mae Paul yn honni bod ‘na tagfeydd yn ddyddiol a ‘llygredd sy’n cynyddu’.
Plaid Cymru message to Gwent: Carry on suffering daily M4 gridlock and intensifying pollution why we curry favour with North Wales voters.
— Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016
Ond nid dyna yw’r gwirionedd. Am rannau helaeth iawn o’r dydd mae’r draffordd yn llifo’n rhwydd (mae cŵyn wrth law y Comisiynydd Gwybodaeth am fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu’r gwybodaeth manwl). A sut all llygredd fod ar gynnydd pan fo 1% yn llai o draffig ar heolydd Cymru nawr nag y bu yn 2007?
Dyma Paul yn honni bod unrhyw gynllun heblaw am y Ffordd Ddu yn mynd i ‘lwytho llygredd yng nghanol Casnewydd’.
Plaid's plan to dump pollution in 2-road plan through the heart of Newport & not disperse it in 3-road plan would be an environmental crime
— Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016
Ond fe welwyd eisoes mai 8 tŷ yn unig sydd o dan warchodaeth oherwydd llygredd sy’n deillio o’r M4. Oni bai bod y 72 o bobl sy’n marw oblegid llygredd aer pob blwyddyn i gyd yn byw yn yr 8 tŷ yma mae angen ffordd arall o weithredu ar lygredd aer nag adeiladu traffordd newydd.
Dyma Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf
Seems she has complete lack of understanding why business see the M4 works as so important for the Whole of S Wales https://t.co/Se92KLDmNG
— Cllr Andrew Morgan OBE (@AndrewMorganRCT) March 6, 2016
Dim ots gan Andrew, mae’n debyg, am y 26,978 o deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf sydd heb gar neu fan (27% o holl deuluoedd yn y sir). Mae’n hapus iawn i wastraffu hyd at £2 biliwn o arian pobl eraill i adeiladu traffordd wnaiff galluogi pobl i yrru allan o Gymru am 70mya.
Beth am ward Andrew Morgan, sef Gorllewin Aberpennar? O’r 1,970 o deuluoedd sy’n byw yn y ward, 740 sy heb gar neu fan. Dyna i chi 38% o boblogaeth ward Mr Morgan sydd â llawer iawn o ddiddordeb mewn gwariant £2 biliwn ar draffordd fydd fawr o ddim defnydd iddyn nhw. Wedi’r cwbl, mae â 39% o deuluoedd y ward problem iechyd tymor-hir neu anabledd. Oes ffordd well o wario £2 biliwn yn nhyb y bobl yma, tybed?
Ac wrth gwrs, nid yw “busnes” yn unfarn o blaid y draffordd hon. Mae’r FSB, sy’n cynrychioli 10,000 o fusnesi ledled Cymru yn gwbl yn erbyn y cynllun.
Dyma Jayne Brencher, Cynghorydd Trallwn a Maer Tref Pontypridd
@AndrewMorganRCT @huw_price
Extraordinary ignorance of what the Welsh economy needs!
Gridlocked Wales harms us all ..damages business— Jayne Brencher (@jaynebrencher) March 6, 2016
Mae Jayne yn gwybod pob dim sydd i’w wybod am ‘ddiffyg dealltwriaeth’. Wedi’r cyfan, am bob £1 a werir ar y cynllun anferth hwn, fe ddaw £1 yn ôl i’r economi.
Buddsoddwch bunt a chewch chi un yn ôl. Mae’r prosiect yma yn fuddsoddiad tipyn yn unig yn well na stwffio £1 biliwn o dan eich matras.
Os mai dyna yw “yr hyn sydd ei angen ar yr economi”, mawr ddiolch nad ydy Jayne mewn sefyllfa i wneud niwed pellach i economi Cymru.
Mae ward cyngor tref Mrs Brencher, Trallwn, o fewn ward Trallwng o ran Cyngor Rhondda Cynon Taf. Mae 1,678 o deuluoedd yn Nhrallwng; o’u plith mae 425 heb fan na char, sef 25% o’r boblogaeth. 30% o’r ward sydd â phroblem iechyd tymor-hir neu anabledd. “Extraordinary ignorance”. Gwir y gair, Cynghorydd Brencher.
Felly gair i’r gall i’r sawl sy’n honni fod yn rhaid i rywbeth fod yn gywir achos bod Llywodraeth Cymru neu’i chyfeillion yn y CBI yn ei ddweud.
Gwiriwch eich ffeithiau cyn bwrw eich boliau ar y tonfeddi. A pheidiwch ag ail-adrodd sefydliadau ddyle eu hunain wybod yn well. Wedi’r cwbl, nid yw Llywodraeth Cymru tu hwnt i gelwydda os mae am fwrw ymlaen â chynllun, doed â ddel.
Gadael Ymateb