Golygu’r Cofnod
Cadw drafftRhagolwg(yn agor mewn tab newydd)CyhoeddiYchwanegu teitl
Teclyn pwerus iawn i lywio cyfeiriad y drefn gynllunio yng Nghymru yw Polisi Cynllunio Cymru 11 (PCC11). O ran dylanwadu ar y broses o gynllunio strategol, a chynaliadwyedd amgylcheddol, mae’r polisi o fudd mawr i’r rhai sydd am weld cynnydd amgylcheddol.
Mae’r cymalau canlynol yn arbennig o ddiddorol:
1.2 Prif amcan PCC yw sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy
A sut mae hyrwyddo ‘datblygu cynaliadwy’?
Mae gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. (t.7)
Mae gweithredu mewn modd sy ddim yn beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion yn golygu troi golwg cadarn iawn ar argyfyngau newid hinsawdd a byd natur. Mae’r egwyddor yma’n glir wrth ystyried y cymal canlynol:
2.7 Mae creu lleoedd mewn penderfyniadau datblygu yn digwydd ar bob lefel, ac mae’n cynnwys ystyriaethau ar raddfa
fyd-eang, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd…
… a mae Egwyddorion Cynllunio Allweddol yn cadarnhau bod gan y drefn gynllunio…
…ran hanfodol i’w chwarae i sicrhau bod datblygiad yn gallu gwrthsefyll hinsawdd sy’n newid, ac i ddatgarboneiddio cymdeithas a datblygu economi gylchol er lles yr amgylcheddau adeileg a naturiol… Rhaid dilyn yr egwyddor agosatrwydd i sicrhau bod problemau’n cael eu datrys yn lleol yn hytrach na’u pasio i leoedd neu genedlaethau eraill.
Dylid ceisio osgoi effeithiau amgylcheddol negyddol er lles y cyhoedd. Mae hynny’n golygu gweithredu yn y tymor hir i barchu terfynau’r amgylchedd a gwetihredu mewn ffordd integredig fel na chaiff adnoddau ac asedau eraill eu difrodi neu eu colli heb fod modd eu hadfer. Os na ellir rhwystro llygredd, y llygrwr ddylai dalu a thrwy ddilyn yr egwyddor rhagofalus, sicrheir mesurau cost-effeithiol i rwystro difrod amgylcheddol. (t.17)
Mae’r datganiad yma hefyd yn hynod bwerus. Rhaid dilyn drefn i beidio â phasio problemau ymlaen i genedlaethau eraill, a bydd angen gweithredu mewn modd sy’n parchu terfynau’r amgylchedd.
2.23 …Mae’n rhaid [i gynllunwyr] gynllunio ar gyfer ein blaenoriaeth o amgylch creu lleoedd, datgarboneiddio a llesiant.
Eto, mae dadgarboneiddio â statws uchel yn y drefn gynllunio. Mae asesiad o benderfyniadau cynllunio yn cynnwys ystyriaeth o bum ffactor. Mae ambell i sypreis:
2.28… Ystyriaethau economig… sut mae’r cynnig yn cefnogi cyflawni’r nod o sicrhau Cymru mwy ffyniannus, carbon isel, arloesol sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon.
Ystyriaethau amgylcheddol… a fydd achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu hystyried yn llawn drwy leoliad, dylunio, adeiladu, gweithredu, datgomsiynu ac adfer; ac a yw’n cefnogi datgarboneiddio a’r pontio i economi carbon isel.
Mae sylw penodol i newid hinsawdd yn dilyn:
3.30 Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd er mwyn cydgysylltu camau gweithredu yn genedlaethol ac yn lleol i helpu i fynd i’r afael â bygythiadau newid yn yr hinsawdd
3.33 Mae newid hinsawdd yn her fyd-eang, gyda’r effeithiau’n cael eu teimlo ar lefel leol gan gyflwyno risg sylweddol i bobl, i eiddo, i seilwaith ac i adnoddau naturiol. Mae angen i ni gynllunio ar gyfer yr effeithiau hyn, gan leihau bregusrwydd ein hadnoddau naturiol ac adeiladu amgylchedd a all addasu i newid hinsawdd. Mae’r system gynllunio yn chwarae rôl bwysig yn rheoli’r risg hon. Bydd datblygiad a gaiff ei ganiatáu heddiw yn bodoli am ddegawdau i ddod. Y penderfyniad pwysicaf a wneir gan y system gynllunio yw sicrhau bod y datbygiadau cywir yn cael eu hadeiladu yn y lleoedd cywir.
Ac mae plethiant Deddf yr Amgylchedd 2016 â’r system gynllunio i’w weld drwy Reoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol, sy’n gweithio trwy’r broses gynllunio wrth:
3.36
• gwella cydnerthedd ecosystemau a rhwydweithiau ecolegol;
• atal a gwrth-droi colled bioamrywiaeth;
• cynnal a gwella seilwaith gwyrdd gan sicrhau manteision ac atebion ecosystem lluosog;
• dewis lleoedd cydnerth ar gyfer seilwaith a datblygiadau adeiledig
• hwyluso’r symudiad tuag at ddatgarboneiddio’r economi
3.37 Mae iechyd a lles pobl a lleoedd, a’r angen i arafu’r argyfwng hinsawdd a’i effeithiau yn rhoi hwb ychwanegol am weithredu proactif trwy’r system gynllunio.
Rydym yn ffarwelio â’r arfer bondigrybwyll o adeiladu datblygiadau mawrion wrth gyfnewidfeydd traffyrdd a heolydd mawr:
3.52 Dylai awdurdodau cynllunio ailasesu safleoedd datblygu sy’n hygyrch iawn drwy ddulliau heblaw ceir a’u neilltuo ar gyfer defnyddiau dwys o ran teithio fel swyddfeydd, mannau siopa, hamdden, ysbytai a thai sy’n ddigon dwys i lawn ddefnyddio potensial y safle o ran hygyrchedd. Yn achos safleoedd sy’n annhebygol o gael eu gwasanaethu’n dda gan gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, dylid peidio â’u neilltuo ar gyfer eu datblygu.
Eto yn ymwneud á thrafnidiaeth, mae’r polisi yn blaenoriaethu teithio cynaliadwy uwchben cerbydau preifat:
4.0.3 Amcan y thema hon yw sicrhau bod datblygiadau’n cael eu lleoli a’u dylunio mewn ffordd sy’n lleihau’r angen i deithio, yn lleihau’r ddibyniaeth ar y car preifat ac yn darparu cyswllt hygyrch â gwaith, gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol. Gwnir hyn trwy integreiddio datblygiadau â seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy a dylunio cynlluniau yn y fath fodd a fydd yn cynyddu’r hyn a ddarperir a’r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy, gan gynnwys rhoi blaenoriaeth i’r moddau hyn dros geir preifat.
4.1.9 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r ddibyniaeth ar y car preifat a chefnogi newid i ddulliau teithio fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
4.1.12 Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy mewn datblygiadau newydd sy’n rhoi blaenoriaeth i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar draul cerbydau modur preifat
Mae cyfeiriadau niferus at y Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r dulliau gweithredu. Mae’r Ddeddf honno wir yn gwneud gwahaniaeth i’r modd mae awdurdodau cyhoeddus yn gweithredu wrth iddynt fframio polisiau a chynlluniau. Dyma enghreifftiau:
Dylai datblygiadau newydd atal problemau rhag digwydd neu waethygu fel prinder tai fforddiadwy, dibyniaeth ar geir preifat a chynhyrchu allyriadau carbon. t.44
Drwy ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, a’n hamgylchedd naturiol yn fwy cyffredinol, bydd hi’n bosibl diogelu asedau economaidd at y dyfodol mewn ymateb i heriau yr argyfwng hinsawdd ac wrth hyrwyddo dewis adnoddau carbon
isel a phriodol sy’n mynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a darparu gwasanaethau ecosystemau cost effeithiol fel aer a dŵr glân. t.120
Bydd Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang yn cael ei hyrwyddo drwy leihau allyriadau carbon, mynd i’r afael â llygredd aer a rheoli risgiau amgylcheddol. t.121
Yn anad dim, mae Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang yn cael ei hyrwyddo drwy leihau ein hôl-troed carbon drwy seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, annog busnes sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang a hyrwyddo ffynonellau
ynni adnewyddadwy yn hytrach na rhai sy’n allyrru carbon t.74
Dylai datblygiad Atal problemau rhag digwydd neu waethygu – problemau fel cynhyrchu allyriadau carbon, ansawdd aer gwael a gwastraff a cholli’n hadnoddau naturiol y bydd angen eu rheoli am flynyddoedd lawer i ddod. t.74
Problemau fel gwastraff… y bydd angen ei reoli am flynyddoedd lawer i ddod. Fel gwastraff niwclear, efallai?!
Sôn am ynni…
5.7.1 Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw lleihau’r galw pan fo hynny’n bosibl ac yn fforddiadwy. Rhaid sicrhau mai trydan carbon isel yw’r brif ffynhonnell ynni yng Nghymru. Defnyddir trydan adnewyddadwy i ddarparu gwres a thrafnidiaeth yn ogystal â phŵer.
5.7.3 … er mwyn gwella ansawdd ein bywydau ni ac ansawdd bywydau cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn golygu cymryd camau rhagofalus i atal Cymru rhag bod ynghlwm i gloddio mwy am danwydd ffosil a datblygiadau carbon uchel.
5.7.13 Mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru’n cydnabod hierarchaeth ynni. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl
i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid yn yr hinsawdd yn unol â’r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio
5.9.1 Dylai awdurdodau lleol hwyluso pob math o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel
Ac o ran adeiladau a datblygiadau…
5.8.1 Dylai’r system gynllunio gefnogi datblygiad newydd sy’n defnyddio ynni’n effeithiol iawn, yn cefnogi
datgarboneiddio, yn mynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd ac yn addasu i effeithiau yr argyfwng hinsawdd
5.8.2 Polisi Llywodraeth Cymru yw sicrhau adeiladau di-garbon...
5.8.4 Os bydd awdurdodau cynllunio o’r farn na roddwyd ystyriaeth ddigonol i faterion ynni wrth ddylunio prosiect, gallant wrthod rhoi caniatâd cynllunio.
5.8.5 Dylai awdurdodau cynllunio asesu safleoedd strategol i nodi cyfleoedd i sicrhau safonau adeiladu cynaliadwy
uwch, gan gynnwys di-garbon, yn eu cynllun datblygu… [wedi] seilio’u penderfyniadau ar dystiolaeth gadarn ac yn ystyried hyfywedd economaidd y cynllun.
Yn troi at yr argyfwng natur, a byd natur, tra bod rhan o’r pwyslais ar isadeiledd werdd i hybu byd natur, mae’r egwyddor o wella bioamrywiaeth hefyd yn ddigon amlwg:
Dylid atal problemau rhag digwydd neu waethygu. Dylid gwyrdroi colledion bioamrywiaeth, lleihau llygredd, mynd i’r afael â risgiau amgylcheddol a gwella cydnerthedd ecosystemau’n gyffredinol. t.122
6.2.7 Dylid defnyddio’r Asesiad o Seilwaith Gwyrdd i ddatblygu dull cadarn o wella bioamrywiaeth, cynyddu cydnerthedd ecolegol a gwella canlyniadau llesiant
6.2.10 Dylai’r angen i ecosystemau, cynefinoedd a rhywogaethau ymaddasu i newid yn yr hinsawdd gael ei ystyried fel
rhan o’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd. Dylai gynnwys nodi ffyrdd o leihau neu wyrdroi chwalu cynefinoedd, a gwella cysylltedd cynefinoedd drwy hyrwyddo coridorau bywyd gwyllt a nodi cyfleoedd i adfer tir, rheoli’r dirwedd a chreu cynefinoedd newydd neu well.
6.4.2 Mae’r Cynllun Adfer Natur yn cefnogi’r gofyniad deddfwriaethol hwn i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth, mynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd colli bioamrywiaeth drwy ganolbwyntio ar natur wrth wneud penderfyniadau a chynyddu cydnerthedd ecosystemau drwy gymryd camau penodol sy’n canolbwyntio ar y 6 amcan ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau.
6.4.4 Mae’n rhaid cymryd pob cam rhesymol i gynnal neu wella bioamrywiaeth a chryfhau cydnerthedd ecosystemau…. Pan na ellir osgoi neu leihau effeithiau andwyol ar yr amgylchedd, bydd angen gwrthod caniatâd cynllunio.
6.4.5 Rhaid i awdurdodau cynllunio geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau. Mae hynny’n
golygu na ddylai datblygu arwain at gollediad mawr i gynefinoedd na phoblogaethau o rywogaeth, yn lleol nac yn genedlaethol, a rhaid iddo esgor ar fanteision net i fioamrywiaeth.
6.4.8 Yn arbennig, rhaid i awdurdodau cynllunio ddangos eu bod wedi ceisio cyflawni dyletswyddau a gofynion Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd drwy gymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau
6.4.25 Dylai awdurdodau cynllunio warchod coed, perthi, grwpiau o goed/llwyni ac ardaloedd o goetir lle mae iddynt
werth ecolegol, lle maent yn cyfrannu at gymeriad neu amwynder ardal leol arbennig, neu lle maent yn cyflawni swyddogaeth fuddiol sydd wedi’i glustnodi i’r seilwaith gwyrdd.
I gyd wedwn i yw, dangoswch y goeden sydd heb werth ecolegol.
Mae’r polisi hwn yn ein harwain ar drywydd cynaliadwyedd. Mae’r adrannau ynghylch teithio llesol yn arbennig o flaengar. Ond nid da lle gellir gwell.
Er enghraifft, nid oes yna gyfeiriad at sicrhau bod datblygwyr yn cyfrannu at gyrraedd targedau newid hinsawdd drwy sicrhau tai di-garbon (neu passivhaus). Efallai gwendid polisi Llywodraeth Cymru yw hwnna, gan nad ydy Rheoleiddiadau Adeiladau yn ddigon cryf. Dwi wedi trafod y mater truenus yna o’r blaen, gan ofyn “Ai dyma benderfyniad gwaethaf erioed gan Weinidog Cymru?”. Ond oherwydd y diffyg yma, mae’r broses gynllunio yn rhoi pwysau mawr ar ysgwyddau rhyw awdurdod lleol i fod y cyntaf i gynnig y dystiolaeth i fodloni meini prawf cymal 5.8.5 (uchod). Ond beth bynnag am hynny, mae’n rhaid i bob adeilad newydd fod yn “bron di-garbon” erbyn diwedd 2020, yn unol â’r Rheoleiddiadau Ewropeaidd yma. Amdani, felly?
Eto, diffyg arweiniad cadarn o ran polisi Llywodraeth Cymru sy’n golygu bod geiriad yn erbyn echdynnu tanwyddau ffosil i gyd yn sôn am “symud oddi wrth gloddio am danwydd ffosil” (5.10.1, er enghraifft). Ydy hynny’n gydnaws â’r argyfwng hinsawdd?
Gadael Ymateb