Ergyd i Heddlu De Cymru

Mae’r hawl i wrthdystio yn hawl syflaenol iawn, un sy’n cael ei adnabod gan Gonfensiwn Ewropeaidd Hawliau Dynol. Mae wrth wraidd cymdeithas wâr.

Mi ddefnyddiais yr hawl hon heddiw, ar ddwy achlysur. Bore ‘ma, am 8.30, ymunais â chriw o bobl oedd wedi ymgasglu tu fas i Motorpoint Arena, lle cynhaliwyd arwerthiant arfau pennaf Prydain. Roedd Cymdeithas y Cymod yna, ac ambell i berson roeddwn i’n adnabod. Wnaeth dau berson dringo ar do’r adeilad a gosod baner oddi arno.

Roedd rhaid i fi fynd i’r gwaith, felly gadewais ar ôl chwarter awr.

Ond roeddwn wedi trefnu i gwrdd â ‘ngwraig a dau o’n plant yn y prynhawn er mwyn cyfrannu at y niferoedd. Gyda’n baneri, i ffwrdd â ni o’r orsaf trên. Croeson ni’r stryd i gyrraedd rhan o’r brotest oedd ar lecyn o dir islaw adeilad Admiral. Ond roedd fy mab yn oer; roedd holl ochr yr heol honno yn y cysgod, a roedd yn dymuno mynd draw at heulwen ochr arall yr heol. Felly dyma’r pedwar ohonom yn aros wrth y groesfan; wedi gwthio’r botwm, myfi â’m maner o’m mlaen i sicrhau y bydde’r sawl oedd yn gadael yr arwerthiant yn gweld ein harwydd”Arian Gwaed”.

Buodd tri gwerthwr arfau groesi’r heol heb i’r arwydd troi’n wyrdd. A gan mai fi oedd wrth ochr y relings a’r polyn (fi oedd wedi gwrthio’r botwm), mi wthion nhw heibio i. “Excuse me”, dywedais wrth ddau o’r dynion. Dwi ddim wedi arfer i’r fath driniaeth anghwrtais.

A throdd popeth ar ei ben.

Dyma heddwas – yr unig un oedd ar y llecyn yna ar y pryd – yn dod ata i gan ddweud:

I saw that. You assaulted that man and if you touch anyone else I’m going to arrest you for assault.

Excuse me?!

meddwn innau eto. Roedd hi’n ddechrau dod yn alaw cyfarwydd.

We’re waiting to cross the road because my son is cold and wants to be in the sun and they pushed past me.

I find that difficult to believe. I saw you assault him and you’re in danger of being arrested here.

That’s ridiculous.

Ond roeddwn wedi cael ysgytwad i’m mêr. Bygwth fy arestio i o flaen fy ngwraig a dau o blant ifanc, gan eu gadael yng nghanol Caerdydd? Dwi’n ymwybodol bod yr heddlu weithiau yn gweithredu’n gyntaf a chwestiynu wedyn. Ac yn amlwg mi oedd yr heddwas yma â’i fryd ar arestio rhywun, doed â ddel.

Felly ni atebais yn ôl. Ni fynnais ei rif. Ni chymerais lun.

Efallai bod dyfyniad arall gan Uwch-Arolygydd Heddlu Caerhirfryn yn goleuo ymddygiad y bwli yma oedd, fel y soniais, ar ei ben ei hun:

She said no honest officer wanted to work alongside a dishonest officer.

Gadewch i ni ystyried canllawiau arestio:

Subject to an overriding requirement that an arrest is reasonably required and that no less intrusive way of advancing the investigation is reasonably available, (the “Necessity Test”): the constable may arrest without a warrant anyone who is about to or is in the act of committing an offence, or anyone they have reasonable grounds to suspect of committing or being about to commit an offence.

Cred rhesymol bod trosedd wedi’i gyflawni neu ar fin cyflawni?

Ond fe darwyd fi yn nes ymlaen. Os ydym yn gadael i heddweision drwg, budr, y bwlis, bygwth pobl sy’n gwrthdystio’n rhesymol a heddychlon, nhwthau sy’n ennill. Nhwthau sy’n cael dyrchafiad oherwydd arestio pobl (boed mor digywilydd o ddiangen neu heb ei gyfiawnhau). Nhwthau sy’n codi yn y llu nes bod bwlio, trais a phwysau afresymol yn dod yn ymddygiad derbyniol ymhlith yr heddlu.

Felly dwi am anfon rhan fwya’r llith yma at gwynion Heddlu De Cymru. Byddaf yn gofyn am fideo a gymerwyd (os o gwbl) gan yr heddwas i brofi mai fi a ddioddefodd yr anghwrteisi. Byddaf yn gofyn am i’r heddwas dderbyn hyfforddiant priodol mewn trin pobl â pharch. A byddaf yn mynnu ymddiheuriad gan Heddlu De Cymru am yr ergyd i’m ffydd yn yr heddlu a achoswyd, yr ergyd i’m hunan-hyder, yr ergyd i’m modlonrwydd i wrthdystio.

Mae sawl person wedi datgan mai ar seiliau’r dosbarth canol y mae dilysrwydd yr heddlu yn bodoli – er, erbyn hyn, mae’r heddlu yn cydnabod

“I think that there are people from all classes that have a mistrust of the police for all sorts of reasons, usually as a result of interaction with police…We can’t police this country as an unarmed force without the trust of the public.”

Ond trwy ddefnyddio grym y wladwriaeth i fy mygwth a’m cyhuddo o gelwydda mae’r heddlu wedi gwneud i fi eu hofni. Mae hwnna’n mynd llawer tu hwnt i ‘peidio ymddiried ynddynt’.

Pan ddaw’r cyfle i bobl lleisio barn ar doriadau i gyllideb yr heddlu, ai fi fydd yn sefyll yn eu cornol? Go brin.

Yn olaf, hoffwn ddyfalu Liberty:

There is a positive obligation on the State to take reasonable steps to facilitate the right to freedom of assembly, and to protect participants in peaceful demonstrations from disruption by others.

Fe fethodd Heddlu De Cymru’n llwyr i’m hamddiffyn (rhag y dynion anghwrtais ond yn fwy difrifol rhag swyddogion yr heddlu ei hun), ac i hybu fy hawl i wrthdystio.

A dwi’n mynnu iddynt gymryd pob camau posib i wneud yn iawn am yr ymddygiad annerbyniol yma.


Cofnodwyd

yn

gan

Sylwadau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *