Categori: Trafnidiaeth
-
Tri Diwrnod o Rybudd
Druan ar Lywodraeth Cymru. Mis yn unig cyn dyddiad dechrau’r Ymchwiliad Cyhoeddus mae holl sylfaen eu cynlluniau rheibus yn y fantol. Achos – gyda thri diwrnod o rybudd yn unig – mae diawliaid Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain wedi newid y ffordd y dyle awdurdodau cyhoeddus ragweld twf traffig. Ond wrth gwrs, fel rydym wedi dod…
-
Dadleuon Gwag yr M4
Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai. Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl)…
-
Llygredd yng Nghasnewydd
Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, wedi mynd i’r tonfeydd yn ddiweddar i gwyno ynghylch llygredd aer yng Nghasnewydd. @Naturiaethwr Pob bwyddyn mae 72 o bobl Casnewydd yn marw oblegid ansawdd o awyr wedi llygru gan traffig heolydd. Gwastraff o arian? — Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016 Ac mae Paul yn iawn i…
-
Llond Drol o Gelwyddau
Nid ar chwarae bach mae cyhuddo Llywodraeth Cymru o gelwydda, gwyrdroi’r gwirionedd a cham-ddefnyddio data. Ond nid oes disgrifiad arall am y fath propaganda cywilyddus mae Llywodraeth Cymru yn brysur dosbarthu i gymunedau ledled de Cymru ynghylch eu cynlluniau i adeiladu traffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Beth ddigwyddodd i safonau, i degwch, i’r gwirionedd?…
-
Traffordd yr M4 (Casnewydd) III
Bydde hi braidd yn ddiflas i restru pob honiad di-dystiolaeth, anghywir neu gelwyddol yn nogfennau Llywodraeth Cymru parthed yr M4. Nid oes gennyf lawer o awydd gwneud, a mae gyda chi llai fyth o awydd ddarllen. Ond mae’n werth nodi fod honiadau fel y canlynol yn dod yn aml iawn yn natganiadau’r llywodraeth: Nid yw…
-
Traffordd yr M4 (Casnewydd) II
Mae dogfennau Llywodraeth Cymru parthed yr M4 yn frith o honiadau di-dystiolaeth. Pa ffordd well o fynd ati i ddechrau ar y pynciau fesul un, nes bod pob honiad neu anwiredd neu gelwydd wedi’i hoelio? A pha le gwell i ddechrau nag ar dudalennau cyntaf y ddogfen oedd yn rhan allweddol o’r ymgynghoriad cyhoeddus rhwng…
-
Traffordd yr M4 (Casnewydd) I
Yn yr erthyglau sy’n dilyn, byddaf yn datgymalu rhai o’r honiadau y gwnaethpwyd gan y CBI a Llywodraeth Cymru parthed yr angen i wastraffu £1.2 biliwn o arian cyhoeddus ar draffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Ond cyn dechrau ar y broses honno, dyma ddisgrifiad o rai o’r rhinweddau o’r ardal fydd yn cael eu…
-
Ydy Beicio yn Ddiogel?
Gwelais drydar gan @DafyddTrystan a dynodd fy sylw at ystadegau marwolaeth beicwyr ym Mhrydain. Mae’r erthygl gan y BBC yn adrodd bod y nifer o feicwyr sy’n cael eu lladd neu’n brifo’n wael wedi cynyddu’n ddiweddar, yn grynswth a fel cyfradd o’r pellter a deithiwyd. Ond ffigyrau’r DU ydy’r rhain, sydd wrth gwrs yn cynnwys Llundain,…
-
Treth Tanwydd
Yn ddiweddar cyhoeddodd Canghellor Prydain y bydd treth tanwydd (cerbydau) yn cael ei rewi tan mis Mai 2015 “cyn belled ag yr ydym yn canfod yr arian i’w cyllido”. Mae’r AA a’r RAC ill ddau wedi croesawu’r datganiad, tra’n dal i gwyno bod treth tanwydd yn rhy uchel o hyd. A honnir y CBI mai “y…