Yn ddiweddar cyhoeddodd Canghellor Prydain y bydd treth tanwydd (cerbydau) yn cael ei rewi tan mis Mai 2015 “cyn belled ag yr ydym yn canfod yr arian i’w cyllido”. Mae’r AA a’r RAC ill ddau wedi croesawu’r datganiad, tra’n dal i gwyno bod treth tanwydd yn rhy uchel o hyd. A honnir y CBI mai “y penderfyniad cywir yw parhau â’r rhewiad mewn cynydd treth”. Y penderfyniad cywir – i bwy?
Wrth gwrs, dyw cwyno am gostau ‘uchel’ teithio mewn car ddim yn taro deuddeg. Os byddwn yn cymharu â’r cynydd mewn pris teithio mewn trên, bws neu goets, mae pris cludiant cyhoeddus wedi cynyddu llawer mwy(1) na theithio mewn car.
Ond pa mor llesol yw hi i gymdeithas i leihau cost tanwyddau ffosil cludiant?
Yn gyntaf, bydd unrhyw gostyngiad mewn pris petrol yn cynyddu inertia’r cyfundrefn bresennol. Mae’n golygu y bydd pobl wedi’u clymu i isadeilwaith tanwydd ffosil y gorffennol, yn hytrach na dechrau ar drywydd carbon-isel neu yn ddi-garbon. Mae hynnyn yn ei dro yn newyddion drwg i’r economi yn y tymor hir. Os ydym yn ystyried ei bod yn hanfodol i’r byd symud at economi di-garbon yn y pendraw, ein dewis yw naill ai symud yn raddol i’r dyfodol carbon-isel, neu mewn cwymp sydyn fydd yn beryglus i’r economi a chymdeithas.
Yn ail, mae treth tanwydd yn dreth sy’n tynnu arian o bobl gyfoethog a’i ddosbarthu i bobl dlawd. Fel arfer, tua’r amser yma, bydd pawb yn sôn am Bopa Alys na fedrith ond gyrru i’r pentref lleol oherwydd nad oes bysiau a mae’n rhy fryniog i feicio. Ni honnaf nad oes yna bobl dlawd fydde’n elwa o leihad treth tanwydd. Ond mae’r budd iddyn nhw llawer yn llai nag yw e i bobl gyfoethog sy’n berchen ar gar, oherwydd mae pobl gyfoethog yn gyrru mwy a mae pobl dlawd yn colli i raddfa sylweddol uwch oherwydd y golled mewn trethiant cyffredinol (oherwydd pobl dlawd sy’n fwy dibynnol ar y gwasanaethau a ariennir gan dreth).
Gwariant wythnosol y teulu ar betrol/disel, fesul grŵp incwm(2)
Mae 25% o deuluoedd heb gar, gyda gwahaniaeth anferth rhwng pobl cyflog isel/uchel
Nifer ceir/faniau y teulu, fesul grŵp incwm(3)
Yn ôl ystadegau Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain(4) mae canran treth pris petrol a diesel wedi dirywio’n dirfawr ers 2000. O uchafbwynt o 75/76%, canran treth pris tanwydd nawr yw 56/58%.
Canran (%) o’r pris cyfan sydd yn dreth (treth tanwydd a Threth ar Werth)
Fel canlyniad o hyn oll, mae trethi amgylcheddol fel canran o drethiant cyffredinol wedi cwympo neu aros yn eu hunfan. Beth ddigwyddodd i addewid Llywodraeth Prydain “bydd canran treth sy’n dod o drethi amgylcheddol yn cynyddu”? Hawdd. Os na fedrwch gyrraedd y nod, symudwch chi y targed.
Mae’r Trysorlys wedi amcangyfri’r incwm na fydd yn dod i’r amlwg erbyn 2015 fel canlyniad peidio cynyddu treth tanwydd rhwng 2010 a 2015. Y cyfanswm? £22.6 billion. I roi hwn yn ei gyd-destun, arbedion honedig treth yr ystafell wely yw £500 million(5). A pha bris torri gwasanaethau bws o ardaloedd gwledig a thlawd Cymru ble mae cludiant yn broblem llawer mwy dwys – oherwydd diffyg treth yn dod i’r Trysorlys ?
Mi ydw i felly yn gobeithio na fydd y Canghellor yn dod o hyd i’r arbedion fydd yn ei alluogi i roi’r cildwrn hael, haerllug yma i’r lobi gyrru or-bwerus.
Nodiadau
- Tablau TSGB0122 a 0123
- Tabl A6
- Tabl A47
- Tabl ENV0105
- Annex A
Gadael Ymateb