Categori: Llywodraeth Cymru

  • Tri Diwrnod o Rybudd

    Druan ar Lywodraeth Cymru. Mis yn unig cyn dyddiad dechrau’r Ymchwiliad Cyhoeddus mae holl sylfaen eu cynlluniau rheibus yn y fantol. Achos – gyda thri diwrnod o rybudd yn unig – mae diawliaid Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain wedi newid y ffordd y dyle awdurdodau cyhoeddus ragweld twf traffig. Ond wrth gwrs, fel rydym wedi dod…

  • Y Gweinidog Teflon

    Mae awdur y blog yma â gwrthwynebiad hir-dymor i gynlluniau M4 Llywodraeth Cymru. Gallwch weld erthyglau yn sôn am: Ecolaeth gwastadeddau Gwent Honiadau di-sail y llywodraeth ynghylch tagfeydd traffig a’r effaith economegol Amcanestyniadau gwallus o ran niferoedd traffig Celwyddau Llywodraeth Cymru yn arddangosfeydd 2015 Ansawdd aer yng Nghasnewydd Diffyg dealltwriaeth ambell i wleidydd Ond mae’r…

  • Dadleuon Gwag yr M4

    Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai. Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl)…

  • Llygredd yng Nghasnewydd

    Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, wedi mynd i’r tonfeydd yn ddiweddar i gwyno ynghylch llygredd aer yng Nghasnewydd. @Naturiaethwr Pob bwyddyn mae 72 o bobl Casnewydd yn marw oblegid ansawdd o awyr wedi llygru gan traffig heolydd. Gwastraff o arian? — Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016 Ac mae Paul yn iawn i…

  • Diolch i’r Alban

    Heddiw, cyhoeddwyd map o’r holl ardaloedd newydd fydd ar gael i’r cwmniau ffracio weithredu ynddyn nhw. Un peth sy’n drawiadol am y map yma o ran Cymru. Does na’r un drwydded newydd wedi’i chaniatau yma. Pam hynny? Wedi’r cwbl, mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod yn rhaid mynd “ar ras” am nwy siâl? A…

  • Y Sefydliad Cymreig

    Mae’r dyfroedd wedi eu corddi rhywfaint yn ddiweddar. Bu i Andrew RT Davies – arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad – ysgrifennu at Ymddiriedolwyr Sefydliad Materion Cymreig (SMC) gan led-awgrymu na ddyle Lee Waters ddal yn ei swydd. Mae Andrew Davies yn credu mai goddrychol fydde’r Sefydliad nawr bod Lee yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad yn…

  • Bil Cymru

    Mae ambell i berson wedi’i gynhyrfu ynghylch y Bil Cymru (drafft) presennol a gyhoeddwyd ar 20 Hydref 2015. Mae’r Bil i fod i drosglwyddo pwerau dros feysydd a amlinellwyd yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi, oedd ei hun wedi seilio ar gytundeb trawsbleidiol y Comisiwn Silk. Mae’r Bil yn bwriadu datganoli’r pwerau for energy generation projects…

  • Llond Drol o Gelwyddau

    Nid ar chwarae bach mae cyhuddo Llywodraeth Cymru o gelwydda, gwyrdroi’r gwirionedd a cham-ddefnyddio data. Ond nid oes disgrifiad arall am y fath propaganda cywilyddus mae Llywodraeth Cymru yn brysur dosbarthu i gymunedau ledled de Cymru ynghylch eu cynlluniau i adeiladu traffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Beth ddigwyddodd i safonau, i degwch, i’r gwirionedd?…

  • Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Beth Sydd  ChNC i’w Guddio?

    Oes rhagor o gyfrinachau i ddod o du Cyfoeth Naturiol Cymru? Dwi wedi chwilota ym mhob agenda, a chofnodion pob cyfarfod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Does ‘na ddim sôn am Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent. A hwn, er yr holl broblemau amlwg mae safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achosi i’w hun. Os byddwch yn chwilio am drafodaeth ar lefel…

  • Mesuro Dylanwad?

    Sut mae mesuro dylanwad? Mae’n beth anodd ar y naw – os nad amhosib – i’w wneud. Ond pob hyn a hyn fe ddaw ystadegyn diddorol neu stori bach o gyfeiriad annisgwyl. Un felly oedd canlyniad ymholiad at Lywodraeth Cymru: Pob gohebiaeth gan Adran Amgylchedd ac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n crybwyll yr enw ‘Gareth Clubb’,…