Categori: Cadwraeth
-
Dadleuon Gwag yr M4
Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai. Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl)…
-
Llygredd yng Nghasnewydd
Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, wedi mynd i’r tonfeydd yn ddiweddar i gwyno ynghylch llygredd aer yng Nghasnewydd. @Naturiaethwr Pob bwyddyn mae 72 o bobl Casnewydd yn marw oblegid ansawdd o awyr wedi llygru gan traffig heolydd. Gwastraff o arian? — Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016 Ac mae Paul yn iawn i…
-
Llond Drol o Gelwyddau
Nid ar chwarae bach mae cyhuddo Llywodraeth Cymru o gelwydda, gwyrdroi’r gwirionedd a cham-ddefnyddio data. Ond nid oes disgrifiad arall am y fath propaganda cywilyddus mae Llywodraeth Cymru yn brysur dosbarthu i gymunedau ledled de Cymru ynghylch eu cynlluniau i adeiladu traffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Beth ddigwyddodd i safonau, i degwch, i’r gwirionedd?…
-
Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Mwy Fyth o Lygredd
Disgrifir yr Arolygiaeth Gynllunio fel y canlynol mewn llythyr gan y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant at Gadeirydd y Pwllgor Deisebau, William Powell: … asiantaeth annibynnol weithredol Llywodraeth Cymru ac Adran Cymunedau a Llywodraeth Lleol yw yr Arolygiaeth Gynllunio, sydd wedi’i siarsio gan Weinidogion Cymru i wneud ystod o benderfyniadau ar eu rhan nhw. Mae’n hyrwyddo…
-
Gwyllt, Nid Gwallgof
Feral. Dwi ddim am wneud arfer o adolygu llyfrau fan hyn. Ond mae Feral wedi newid sut dwi’n edrych ar dirlun Cymru. A mae wedi procio’r meddwl ddigon i fi gynnig syniad herfeiddiol i drawsffurfio moroedd Cymru. Mae Feral yn disgrifio’r modd y mae tirwedd Cymru (a gwledydd Prydain) wedi newid. Erbyn hyn, er bod…
-
Traffordd yr M4 (Casnewydd) I
Yn yr erthyglau sy’n dilyn, byddaf yn datgymalu rhai o’r honiadau y gwnaethpwyd gan y CBI a Llywodraeth Cymru parthed yr angen i wastraffu £1.2 biliwn o arian cyhoeddus ar draffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Ond cyn dechrau ar y broses honno, dyma ddisgrifiad o rai o’r rhinweddau o’r ardal fydd yn cael eu…