Awdur: gclubb
-
Dadleuon Gwag yr M4
Daeth nifer o sylwadau i’r fei yn ddiweddar fel canlyniad i benderfyniad Plaid Cymru i beidio â chefnogi’r Ffordd Ddu yn y Cynulliad wedi mis Mai. Mae’r Ffordd Ddu – traffordd 6-lôn i’r de o Gasnewydd – yn gynllun dinistriol tu hwnt. Mae rhagor o fanylion am yr effaith amgylcheddol a’r sail (os o gwbl)…
-
Llygredd yng Nghasnewydd
Mae Paul Flynn, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, wedi mynd i’r tonfeydd yn ddiweddar i gwyno ynghylch llygredd aer yng Nghasnewydd. @Naturiaethwr Pob bwyddyn mae 72 o bobl Casnewydd yn marw oblegid ansawdd o awyr wedi llygru gan traffig heolydd. Gwastraff o arian? — Paul Flynn (@PaulFlynnMP) March 6, 2016 Ac mae Paul yn iawn i…
-
Diolch i’r Alban
Heddiw, cyhoeddwyd map o’r holl ardaloedd newydd fydd ar gael i’r cwmniau ffracio weithredu ynddyn nhw. Un peth sy’n drawiadol am y map yma o ran Cymru. Does na’r un drwydded newydd wedi’i chaniatau yma. Pam hynny? Wedi’r cwbl, mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod yn rhaid mynd “ar ras” am nwy siâl? A…
-
Dafad(en) Ddu
Dyw’r erthygl hon ddim yn dilyn trywydd arferol y blog. Ond gobeithio y bydd o werth i ambell i berson sy’n dioddef o ddafaden! O bryd i’w gilydd, fe dyfir dafaden ar droed plentyn neu llaw aelod o’r teulu. Sut i’w threchu? Gallwch fynd at y fferyllydd, lle darganfyddwch lu o foddion drud sy’n addo…
-
Y Sefydliad Cymreig
Mae’r dyfroedd wedi eu corddi rhywfaint yn ddiweddar. Bu i Andrew RT Davies – arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad – ysgrifennu at Ymddiriedolwyr Sefydliad Materion Cymreig (SMC) gan led-awgrymu na ddyle Lee Waters ddal yn ei swydd. Mae Andrew Davies yn credu mai goddrychol fydde’r Sefydliad nawr bod Lee yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad yn…
-
Bil Cymru
Mae ambell i berson wedi’i gynhyrfu ynghylch y Bil Cymru (drafft) presennol a gyhoeddwyd ar 20 Hydref 2015. Mae’r Bil i fod i drosglwyddo pwerau dros feysydd a amlinellwyd yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi, oedd ei hun wedi seilio ar gytundeb trawsbleidiol y Comisiwn Silk. Mae’r Bil yn bwriadu datganoli’r pwerau for energy generation projects…
-
Amser i William Graham Gasglu ei Bensiwn?
Mae’r newyddion bellach ar led fod Cronfa Pensiwn Aelodau’r Cynulliad wedi buddsoddi mewn rhai cwmniau amheus iawn. Fe gewch chi weld y rhestr lawn o’r buddsoddiadau fan hyn, ond dyma’r crynodeb: Mae o leiaf £0.8 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn cwmniau tanwydd ffosil, gan gynnwys rhai o’r cwmniau sy’n bennaf gyfrifol am newid hinsawdd (a rhai sy…
-
Llond Drol o Gelwyddau
Nid ar chwarae bach mae cyhuddo Llywodraeth Cymru o gelwydda, gwyrdroi’r gwirionedd a cham-ddefnyddio data. Ond nid oes disgrifiad arall am y fath propaganda cywilyddus mae Llywodraeth Cymru yn brysur dosbarthu i gymunedau ledled de Cymru ynghylch eu cynlluniau i adeiladu traffordd newydd i’r de o Gasnewydd. Beth ddigwyddodd i safonau, i degwch, i’r gwirionedd?…
-
Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Beth Sydd  ChNC i’w Guddio?
Oes rhagor o gyfrinachau i ddod o du Cyfoeth Naturiol Cymru? Dwi wedi chwilota ym mhob agenda, a chofnodion pob cyfarfod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Does ‘na ddim sôn am Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent. A hwn, er yr holl broblemau amlwg mae safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru wedi achosi i’w hun. Os byddwch yn chwilio am drafodaeth ar lefel…
-
Mesuro Dylanwad?
Sut mae mesuro dylanwad? Mae’n beth anodd ar y naw – os nad amhosib – i’w wneud. Ond pob hyn a hyn fe ddaw ystadegyn diddorol neu stori bach o gyfeiriad annisgwyl. Un felly oedd canlyniad ymholiad at Lywodraeth Cymru: Pob gohebiaeth gan Adran Amgylchedd ac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n crybwyll yr enw ‘Gareth Clubb’,…