Tag: Cylchdaith Rasio
-
Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent – Mwy Fyth o Lygredd
Disgrifir yr Arolygiaeth Gynllunio fel y canlynol mewn llythyr gan y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant at Gadeirydd y Pwllgor Deisebau, William Powell: … asiantaeth annibynnol weithredol Llywodraeth Cymru ac Adran Cymunedau a Llywodraeth Lleol yw yr Arolygiaeth Gynllunio, sydd wedi’i siarsio gan Weinidogion Cymru i wneud ystod o benderfyniadau ar eu rhan nhw. Mae’n hyrwyddo…
-
Dylanwad Alun Davies
Am resymau amlwg, mae gofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Mae’n rhaid i bob un ohonynt – gan gynnwys Is-Weinidogion – gydymffurfio â’r Cod Gweinidogol, sy’n gosod safonau ymddygiad. Ys dywed neb llai na Carwyn Jones: Fel Gweinidogion mae’n ofynnol arnom gadw’r safonau uchaf o ymddygiad. Mae’r Cod yn gosod y safonau hynny, a’r egwyddorion sy’n…
-
Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent III
Mewn ymateb i gyfres o scandalau gwleidyddol yn y 1990au, paratowyd adroddiad gan yr Arglwydd Nolan, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Bywyd Cyhoeddus. Amlinellwyd y saith Egwyddor Nolan, sydd i fod i’w dilyn gan bawb sydd mewn “swyddogaeth gyhoeddus”. Er nad oes diffiniad cyfreithiol o swyddogaeth gyhoeddus, mae un Athro Cyfraith yn cynnwys y canlynol o dan y diffiniad: gweinidogion, gweision sifil…
-
Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent II
Mae’n briodol i fi eich atgoffa bod y cytundeb a wnaethpwyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a’r datblygwr â’r bwriad o: …manylu’r ymrwymiadau i’w cyflawni, a’r gwaith sydd i’w wneud gan yr Ymgeisydd, er mwyn lleddfu pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch tirwedd, mawn a chynefinoedd bioamrywiaeth… Bydd rhai ohonoch yn cofio mai pum maes oedd wedi codi pryderon swyddogion Cyfoeth…
-
Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent I
Mae Cylchffordd Rasio Blaenau Gwent yn gynllun hynod ddadleuol. Mae cryn anniddigrwydd ymhlith y sector amgylcheddol ynghylch y modd yr aethpwyd ati i roi sêl bendith i’r cynllun gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llwyodraeth Cymru. O dan y drefn sydd ohoni, dylid Llywodraeth Cymru ystyried galw cais cynllunio i mewn am ystyriaeth Weinidogol o dan…