
Hyfryd yw gweld planhigion yn meddiannau craciau’r pafinau. Maent yn darparu lliwiau amrywiol, oglau hyfryd a chlytwaith o siapau diddorol i dynnu’r llygad pan fyddwn am dro. Maent yn amlwg yn dda i fyd natur – buodd wenynen wrthi’n beillio tra fy mod i’n tynnu’r llun ar y chwith.
Pam felly bod y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn chwistrellu cemegolion chwynladd ar y pafinau yn flynyddol – cemegolion sy’n “niweidiol iawn i lygaid, ac yn niweidiol i anifeiliaid a phlanhigion dyfrol, gydag effeithiau hir-dymor“?
Mae gwefan Pesticide Action Network UK yn eich arfogi i chwilio fesul awdurdod lleol am faint o gemegolion sy wedi’u defnyddio dros y flwyddyn (2024 yw’r flwyddyn gyflawn ddiweddaraf). Defnyddiodd fy nghyngor i – Cyngor Bro Morgannwg – dros dunnell o chwynladdwyr y flwyddyn honno, a hynny am swm o £90k (pris y cemegolion yn unig – nid cost eu chwistrellu).
Mae fy nghyngor i dal yn defnyddio’r chwynladdwyr yma:
- Ym mharciau a mannau chwarae cyhoeddus
- Ar gaeau chwaraeon
- Ar bafinau ac ochrau heolydd
A nid ychwaeth oes polisi gan y cyngor i leihau’r defnydd o’r cemegolion yma.
Beth allem ei wneud felly? Diolch eto i’n ffrindiau yn Pesticide Action Network UK, fe allwch ebostio’ch cynghorwyr yn reit rhwydd wrth ddefnyddio’r ddolen yma. Mi fydd yr ebost yn mynd at eich cynghorw(y)r gan ofyn iddynt ystyried lleihau’r defnydd o’r cemegolion. Fy unig feirniadaeth yw nad yw’n galw yn ddiamwys i ddod â’r arfer yma i ben.
Amdani, gyfeillion! Dwi’n hyderus y bydd modd i’n harwyr yn ein cynghorau ddod o hyd i ffyrdd gwell o lawer o wario £90k.
ON: Dyma fy neges i at fy nghynghorwyr:
Dwi’n ysgrifennu atoch fel preswylydd yn eich ward sydd á phryder ynghylch y tunnell o gemegolion peryglus i lygaid ac i natur sy’n cael ei chwistrellu ar gaeau chwarae, meysydd chwarae a phafinau’r sir.
Mae yna lawer o opsiynau amgen i gael. Mae Ffrainc a Denmarc wedi gwahardd y defnydd o’r plaladdwyr yma yn eu pentrefi a’u trefi. Mae’n bosib i’w wneud – a bydde mabwysiadu polisi felly yn cyd-fynd á Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r cemegyn pennaf – glyphosate – yn niweidiol iawn i lygaid ac yn ddinistriol iawn i blanhigion ac anifeiliaid dyfrol, gydag effeithiau tymor hir. Maent wrth reswm yn dinoethi ardaloedd o gynefin sy’n bwysig i beillwyr.
Mae gyda’r Pesticide Action Network UK (PAN UK) adnoddau am ddim i helpu’r cyngor i gymryd y penderfyniad i beidio á defnyddio cemegolion lladd chwyn bellach.
Dwi’n gofyn i chi ddarllen yr adnoddau yma, a rhoi cynnig ger bron y cyngor i ddod á’r defnydd o’r chwynladdwyr i ben. Yn ogystal, hoffwn i chi roi gwybod i’r timoedd chwistrellu chwynladdwyr i beidio á chwistrellu’r cemegolion ar [enw Stryd], Penarth, nag yn y lón gefn rhwng [enwau strydoedd]. Fe allem ddod i gytundeb bod y trigolion lleol yn gwneud y gwaith o gadw llygad ar y tyfiant a thynnu planhigion sy’n tyfu tu hwnt i reswm.
Gyda diolch i chi am ystyried y mater yma, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb.