Dros nifer o flynyddoedd, dwi wedi pasio’r criw yma sawl gwaith. Gyda’u sachau ar eu cefnau a’r pibellau chwistrellu o’u blaenau, gweithio’n ddiwyd ydynt i ladd planhigion. “Weeds”. Y planhigion “anghywir” yn y lle anghywir. Ond mae hi wedi’n nharo i fod y weithred hon – chwistrellu gwenwyn o gwmpas morglawdd Bae Caerdydd – ddim yn llesol i’r byd natur rydym oll yn cael ein hannog i’w warchod.
Ond pa fath o wenwyn a ddefnyddir? Gan gydnabod bod amrywiaeth o gemegolion ar gael i ladd planhigion, penderfynais ofyn am y wybodaeth yma, o dan y Rheoleiddiadau Gwybodaeth Amgylcheddol.
Mae’r atebion i’r cwestiynau a ofynnais, parthed tir morglawdd Bae Caerdydd, fel y canlyn:
- Defnyddir tua 80 litr o chwynladdwr crynodol bob blwyddyn. Noder ‘crynodol’. Mae hyn yn golygu’r hylif chwynladdwr cyn iddo gael ei deneuo â dŵr.
- Y math o hylif lladd planhigion a ddefnyddir yw Monsanto Amenity Glyphosate. Mae Asiantaeth Cemegau Ewrop yn rhestru glyphosate fel cemegyn sy’n gallu achosi niwed difrifol i’r llygaid, a sy’n niweidiol i fywyd dyfrol gydag effeithiau tymor hir. Efallai ddim y cemegyn gorau oll i’w chwistrellu mewn man cyhoeddus wrth ymyl llyn gyda llawer iawn o ymwelwyr, a reit ar bwys safle Aqua Park sy’n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc, o fewn tafliad carreg i’r safleoedd chwistrellu gwenwyn.
- Cost lladd planhigion ar y morglawdd yw ychydig dros £24,000 y flwyddyn. Mae’r cost yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen trin Clymlys Siapan
Digon posib nad yw trigolion Caerdydd yn ymwybodol bod degau o filoedd o bunnoedd o’u harian treth yn cael eu gwario ar wenwyno planhigion ar forglawdd Bae Caerdydd bob blwyddyn. Dwi wedi bod yn ystyried beth yw’r canlyniad gwaethaf o leihau’n sylweddol ar y defnydd o chwynladdwyr, gan ei ddefnyddio dim ond ar gyfer y Clymlys Siapan. Bydde mwy o blanhigion yn tyfu o blith y cerrig ar y morglawdd. Ond ni welaf hynny fel canlyniad drwg. Mae blodau a llwyni yn denu pryfed, adar, ac anifeiliaid eraill, maent yn sefydlogi’r pridd a’r tywod sydd fel arall yn llifo i ffwrdd, a maent yn lleihau gwres yr haf. Onid ydym i fod yn gyfeillgar i natur dyddiau ‘ma? Onid yw Cyngor Caerdydd wedi datgan “Argyfwng natur yng Nghaerdydd, gan rhoi bioamrywiaeth wrth galon holl benderfyniadau’r Cyngor”, oherwydd bod “yr amgylchedd naturiol – sy’n sylfaen i’n bodolaeth – mewn argyfwng”?
Tybed a ydy’r darganfyddiad yma yn rhoi statws “Baner Werdd” Morglawdd Bae Caerdydd yn y fantol? Mae’n anodd cysoni defnydd o’r gwenwyn yma gyda’r meini prawf ‘bioamrywiaeth’, ‘iach, diogel’ a ‘rheoli amgylcheddol’.
Os mae’r cynnig – a fabwysiadwyd gan Gyngor Caerdydd yn 2021 – i weithredu ‘yr arfer orau’ er mwyn gwarchod bioamrywiaeth Cymru yn golygu rhywbeth, diau y bydd y cytundeb gyda’r chwynladdwyr yma yn dod i ben yn reit sydyn. Ac os na fydd, wel, drosodd i chi, etholwyr Caerdydd…
Gadael Ymateb