8%: Effeithlonrwydd Ynni

Yn ddiweddar, trechwyd her gyfreithiol yn erbyn datganiad effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru.

Roedd yr her wedi chwilio am ddatrysiad cyfreithiol oherwydd datganiad y llywodraeth y bydd tai newydd ond 8% yn fwy effeithlon eu defnydd o ynni na safonau Rheoliadau Adeiladu 2010, yn hytrach na’r opsiynau oedd i’w gweld yn yr ymgynghoriad. Ym marn y sawl oedd yn herio, roedd 8% yn “sylfaenol wahanol” [1] i hoff opsiwn y llywodraeth yn yr ymgynghoriad (gwelliant o 40%), a’r opsiwn arall (gwelliant o 25%).

Ond fel mae’n digwydd, mae cyfres o flychau tic yn Annex B y ddogfen (ar gael yn Saesneg yn unig), ar dudalen 61, sy’n gofyn a ydy’r sawl sy’n ymateb yn dymuno gweld:

  • Yr un safonau ag sydd i’w canfod yn Rheoleiadau Adeiladu 2010
  • Gwelliant o 40%
  • Gwelliant o 25%
  • ‘Rhywbeth arall’

Presenoldeb yr opsiwn ‘rhywbeth arall’ olygodd nad oedd y datganiad 8% ddim yn sylfaenol wahanol i’r hyn oedd yn yr ymgynghoriad.

A ddylen ni fod yn hapus gyda gwelliant o 8%? Mae’r ddogfen ymgynghorol yn ein hysbysu bod tai newydd eisoes yn cyrraedd safon uwch na Rheoliadau Adeiladu 2010, a mai

“canlyniad hyn yw gwelliant o 8% allyriadau CO2 dros [Rheoliadau] 2010”[2].

Felly, yr hyn a gyflawnwyd gan y Gweinidog, wedi cyfnod ymgynghori blwyddyn gron, yw datganiad o ddim gwelliant. A all y chwe chyfarfod a gynhaliwyd rhwng y Gweinidog a’r diwydiant adeiladu tai yn y tri mis cyn y cyhoeddiad wedi dylanwadu ar y penderfyniad? Paid â sôn!

Mae dau ganlyniad pwysig i benderfyniad y Gweinidog.

Mae’n ofynnol ar bob Aelod Wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sicrhau bod tai newydd yn cyrraedd safon ‘di-garbon’ erbyn diwedd 2020. Mae Lloegr yn barod wedi ymrwymo i gyrraedd y safon hon erbyn 2016. Rydym yn rhy brin o amser, yn ôl pob tebyg, i gyrraedd safon Lloegr erbyn 2016, felly mae’n debygol y byddwn yn cyrraedd y safon ar ôl Lloegr. Pryd bynnag y byddwn yn ymuno â’r parti di-garbon, gallem fod yn weddol hyderus y bydd adeiladwyr tai o Loegr yn camu dros y ffin a llyncu’r rhan fwyaf o’r busnes newydd, oherwydd nhwthau fydd y sawl â’r arbenigedd i adeiladu tai safonol. Fe fydd busnesau Cymreig yn ffeindio hi’n anodd i ddal i fyny.

Yn y cyfamser, bydd pobl yn nhai newydd yng Nghymru yn talu biliau tanwydd diangen o uwch na’u cyfeillion dros y ffin. Mae hwn yn wael i’r economi (oherwydd mae llai o arian ar gael i wario ar bethau amgen, defnyddiol) yn ogystal â’r amgylchedd. Bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn uwch fel canlyniad i benderfyniad y Gweinidog.

Nid elusennau amgylcheddol yn unig sy’n cwyno am ddiffyg uchelgais Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Hydref 2013 oedd yn diweddaru eu archwiliad ynni a chynllunio:

“Yn ddiweddar cyhoeddodd y Rheoliadau Adeiladu y byddai’r safonau allyriadau ar gyfer tai newydd yn gostwng 8% o’r hyn ydoedd yn 2010, yn hytrach na’r 40% yr ymgynghorwyd arno’n wreiddiol. Rydym yn pryderu fod hyn yn gam i’r cyfeiriad anghywir”[3].

Ail ganlyniad pwysig i ddatganiad y Gweinidog yw lleihad ymddiried mewn llywodraeth. Rhoddwyd peth amser ac adnoddau i mewn i ymateb gan lu o sefydliadau i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Roedd ymateb Cyfeillion y Ddaear Cymru, er enghraifft, yn mynnu y dyle pob tŷ newydd fod yn ddi-garbon. Mae’n rhaid bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried ymateb Cyfeillion y Ddaear yn ‘gydwybodol’ oherwydd mae angen gwneud hynny o dan yr egwyddorion Gunning. Dyle’r ymateb hynny, felly, wedi helpu’r Gweinidog i ddod i benderfyniad.

Ond mae defnydd Llywodraeth Cymru o dric technegol – blwch tic ‘rhywbeth arall’ – i lesteirio’r cyfle i gael cywirdeb cyfreithiol wedi niweidio natur ymgynghori yng Nghymru. Wedi’r cwbl, pam dyle sefydliadau prin eu hadnoddau ymateb i unrhyw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru os bydd eu hymatebion yn cael eu diystyru yn wyneb lobïo ffyrnig gan fusnesau mawrion?

Mae’n wael i fusnesau Cymreig, mae’n wael i filiau tanwydd yng Nghymru, mae’n wael i’r economi a mae’n wael i’r amgylchedd. Mae hefyd wedi gosod cynsail peryglus i ddemocratiaeth yng Nghymru. Ai dyma benderfyniad gwaethaf erioed gan Weinidog Cymru?

[1] R (Elphinstone) v Westminster City Council [2008] EWHC 1287

[2] tudalen 14

[3]  tudalen 9


Cofnodwyd

yn

, ,

gan

Sylwadau

Un ymateb i “8%: Effeithlonrwydd Ynni”

  1. […] Adeiladau yn ddigon cryf. Dwi wedi trafod y mater truenus yna o’r blaen, gan ofyn “Ai dyma benderfyniad gwaethaf erioed gan Weinidog Cymru?”. Ond oherwydd y diffyg yma, mae’r broses gynllunio yn rhoi pwysau mawr ar ysgwyddau […]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *