Sbwriel ar ein Heolydd

Ers fy nyddiau cynnar dwi wedi trio gwneud yr hyn a alla i er mwyn gwaredu sbwriel rhag ein gwlad. Yn y pendraw, arweiniodd yr ymrwymiad hwn at swydd Rheolwr Polisi Cadwch Gymru’n Daclus. Ac am dair blynedd bues yn llunio polisiau i gael gwared ar sbwriel wrth fôn y broblem.

Mae bellach dros 20 mlynedd ers i Gadwch Gymru’n Daclus gyhoeddi’r papurau – oedd yn delio â gwm cnoi, bagiau plastig, ernes ar ganiau a photeli, a thaflu sbwriel o gerbydau. Felly pleser yw hi i weld ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys taflu sbwriel o gerbydau.

Argymhelliad pennaf Cadwch Gymru’n Daclus ar y pryd oedd:

“Keep Wales Tidy recommends that section 87 of the EPA be updated to permit the Registered Keeper of a vehicle to be held liable, by a Fixed Penalty Notice, for any littering emanating from a vehicle for which she or he is responsible”.

Mabwysiadwyd yr union ddull yma gan Lywodraeth Prydain (at Loegr) yn 2018, a Llywodraeth yr Alban yn 2024. Hyderaf y bydd y twll yn neddfwriaeth Gymreig yn cael ei gau fel canlyniad i’r ymgynghoriad yma. Os ydych am weld llai o sbwriel ar heolydd Cymru, beth am fynd ati i ymateb i gwestiynau 31-35 yr ymgynghoriad?

Ateb syml i gwestiwn 31 yw “Ydw”. Fe ellid ei anfon at sylw PolisiAmgylcheddol.Deddfwriaeth@llyw.cymru 


Cofnodwyd

yn

gan

Tagiau: